Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Delight as Diplomat with Conwy Connection is Appointed Interim Ambassador to the USA / Penodi diplomydd gyda chysylltiad â Chonwy yn Llysgennad dros dro i'r Unol Daleithiau yn destun llawenydd

  • Tweet
Friday, 12 September, 2025
  • Local News
Conwy

After the eventual sacking of Peter Mandelson as UK ambassador following increasing outcries about his links with convicted paedophile Jeffrey Epstein, James Roscoe has been appointed Interim Ambassador.

 

James Roscoe attended six form at Ysgol Aberconwy, Conwy, following which he has gone on to have a fantastic career as a highly respected diplomat.

 

He was previously appointed Deputy Head of Mission at the British Embassy Washington in July 2022.

 

Before moving to Washington he was the UK Ambassador to the UN General Assembly from 2019.  Prior to this, from 2016 to 2019 he held the roles of Director for Communication at the Cabinet Office, and subsequently the Department for Exiting the European Union.

 

The Interim Ambassador was also previously Communications Secretary to HM The Queen in the Royal Household from 2013 to 2016, and has undertaken postings to the UN, Sierra Leone, and Iraq.

 

Congratulating the Interim Ambassador, Janet Finch-Saunders MS said:

 

“The Interim Ambassador is an inspiration. He has diligently served Queen, King, and Country without seeking any media attention.

 

“For us here in Aberconwy I think it important that we take a moment to celebrate the fact that a former student of Ysgol Aberconwy now represents the whole of the United Kingdom in the United States of America. That is an incredible achievement.

 

“Whilst I do not know the Interim Ambassador personally, I applaud the fact he has retained links with our community. For example, in December 2023, whilst he was Deputy Head of Mission at the British Embassy Washington, he gave a reading at one of the special Christmas services arranged in the Church of St Mary and All Saints by his former teacher, and Conwy local champion, Mr Chris Roberts”.

 

ENDS

 

Yn sgil diswyddiad hirddisgwyliedig Peter Mandelson fel llysgennad y DU yn dilyn protestiadau cynyddol am ei gysylltiadau â'r pedoffeil Jeffrey Epstein, mae James Roscoe wedi'i benodi'n Llysgennad Dros Dro.

 

Roedd James Roscoe yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Aberconwy, Conwy, ac ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i gael gyrfa wych fel diplomydd uchel ei barch.

 

Fe'i penodwyd yn flaenorol yn Ddirprwy Bennaeth Cenhadaeth yn Llysgenhadaeth Prydain Washington ym mis Gorffennaf 2022.

 

Cyn symud i Washington, roedd yn Llysgennad y DU i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o 2019.  Rhwng 2016 a 2019 bu'n gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn Swyddfa'r Cabinet, ac yna yn yr Adran Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Roedd y Llysgennad Dros Dro hefyd yn Ysgrifennydd Cyfathrebu i EM y Frenhines rhwng 2013 a 2016, ac mae wedi treulio cyfnodau yn gweithio yn y Cenhedloedd Unedig, Sierra Leone, ac Irac.

 

Wrth longyfarch y Llysgennad Dros Dro, dywedodd Janet Finch-Saunders AS:

 

“Mae'r Llysgennad Dros Dro yn ysbrydoliaeth. Mae wedi gwasanaethu'r Frenhines, y Brenin a'r Wlad yn ddiwyd heb geisio unrhyw sylw gan y cyfryngau.

 

“I ni yma yn Aberconwy, rwy'n credu ei bod yn bwysig dathlu'r ffaith bod cyn-fyfyriwr o Ysgol Aberconwy bellach yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig gyfan yn yr Unol Daleithiau. Mae'n gamp anhygoel.

 

“Er nad wyf yn adnabod y Llysgennad Dros Dro yn bersonol, rwy'n cymeradwyo'r ffaith ei fod wedi cadw cysylltiadau â'n cymuned. Er enghraifft, tra'r oedd yn Ddirprwy Bennaeth Cenhadaeth yn Llysgenhadaeth Prydain yn Washington, fe wnaeth roi darlleniad yn un o'r gwasanaethau Nadolig arbennig a drefnwyd yn Eglwys y Santes Fair a'r Holl Saint gan ei gyn-athro, a hyrwyddwr lleol Conwy, Mr Chris Roberts, ym mis Rhagfyr 2023”.

 

DIWEDD

You may also be interested in

Money

Dementia support clinic coming to Nationwide Llandudno

Tuesday, 4 November, 2025
Nationwide will be hosting a dementia support clinic at their branch on Mostyn Street, Llandudno on Tuesday 9th December. Nationwide have teamed up with Dementia UK to offer free, confidential appointments. You don’t need to have a diagnosis to attend.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree