Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Arriva Buses Wales Agree to Change Bus Routes for Residents Cut-off in Deganwy / Bysiau Arriva Cymru yn cytuno i newid llwybrau bysiau i drigolion Deganwy

  • Tweet
Thursday, 11 September, 2025
  • Local News
Janet

With Station Road, Deganwy, closed to all traffic between 2 September 2025 and 21 November 2025, Arriva Wales have diverted all bus services via Llanrhos.

 

Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, acting on behalf of residents, has made formal requests for urgent consideration to be given to providing a shuttle service or improved diversion route for public transport users from central Deganwy.

 

The bus services affected are 5D, 13, 15, and 24.

 

Responding to the concerns raised by Mrs Finch-Saunders, Arriva Buses Wales have advised today (11/09/2025) that the diversion route will be changed on Monday (15/09/2025) so that all bus services, running in both directions, operate via Rockfield drive and Hawes Drive.

 

Arriva added:

 

“As I'm sure you can imagine this is a very difficult and costly situation for ourselves, as it significantly stretches our resource for the route and will directly impact our service punctuality. 

 

“We have also risk assessed options of operating a shuttle service, however given our current fleet we do not believe there is a suitable safe option for us to operate.  Alongside this we have approached TFW… to see if they can support in anyway who have advised us they are unable to.  Whilst we are aware this is an inconvenience to the area, it is a very challenging diversion for ourselves to operate and has been forced upon us.  We will happily continue to work with yourselves and TFW to look for the most suitable and safe option for our customer base”.

 

Commenting, Janet said:

 

“I thank Arriva Buses Wales for their prompt responses to my correspondence, and for the steps taken so to change the diversion route.

 

“The new route commencing on Monday will mean that buses reach stops closer to central Deganwy.

 

“I appreciate that this is not a perfect solution, but it is an improvement to a situation caused by the major road closure.

 

“I thank Arriva Buses Wales, Wales & West, and Cllr Samantha Cotton for their cooperation so to try and ensure that public transport is accessible to more residents in Deganwy”.

 

ENDS

 

Gyda Ffordd yr Orsaf, Deganwy, ar gau i'r holl draffig rhwng 2 Medi 2025 a 21 Tachwedd 2025, mae Arriva Cymru wedi dargyfeirio'r holl wasanaethau bws drwy Lan-rhos.

 

Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, gan weithredu ar ran trigolion, wedi gwneud ceisiadau ffurfiol am ddarpariaeth gwasanaeth gwennol neu lwybr dargyfeirio gwell ar frys, i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus o ganol Deganwy.

 

Mae'r gwaith ffordd yn effeithio ar wasanaethau bysiau 5D, 13, 15, a 24.

 

Wrth ymateb i'r pryderon a godwyd gan Mrs Finch-Saunders, mae Bysiau Arriva Cymru wedi dweud heddiw (11/09/2025) y bydd y llwybr dargyfeirio yn newid ddydd Llun (15/09/2025) fel bod yr holl wasanaethau bws, sy'n rhedeg i'r ddau gyfeiriad, yn mynd trwy Rockfield Drive a Hawes Drive.

 

Ychwanegodd Arriva:

 

“Fel y gallwch ddychmygu dwi'n siŵr, mae hon yn sefyllfa anodd a chostus iawn i bawb, gan ei fod yn ymestyn ein hadnoddau ar gyfer y llwybr i'r eithaf ac yn cael effaith uniongyrchol ar brydlondeb ein gwasanaeth. 

 

“Rydyn ni hefyd wedi cynnal asesiad risg o opsiynau rhedeg bysiau gwennol, ond o ystyried ein fflyd bresennol, dydyn ni ddim yn credu bod yna opsiwn diogel addas i ni ei weithredu.  Ochr yn ochr â hyn rydyn ni wedi cysylltu â Trafnidiaeth Cymru... i weld a allan nhw ein helpu mewn unrhyw ffordd, ond na.  Er ein bod ni'n ymwybodol o'r ffaith bod hyn yn achosi anghyfleustra i'r ardal, mae'n ddargyfeiriad heriol iawn i ni weithredu ac wedi cael ei orfodi arnom mewn gwirionedd.  Byddwn yn hapus i barhau i weithio gyda chi a TrC i chwilio am yr opsiwn mwyaf addas a diogel ar gyfer ein cwsmeriaid”.

 

Mewn ymateb, dywedodd Janet:

 

“Diolch i Bysiau Arriva Cymru am eu hymatebion prydlon i'm gohebiaeth, ac am y camau a gymerwyd i newid y llwybr dargyfeirio.

 

“Bydd y llwybr newydd sy'n dechrau ddydd Llun yn golygu bod bysiau'n cyrraedd safleoedd sy'n nes at ganol Deganwy.

 

“Rwy'n gwerthfawrogi nad yw’n ateb perffaith, ond mae'n welliant ar y sefyllfa a achoswyd yn sgil cau’r ffordd fawr.

 

“Diolch i Fysiau Arriva Cymru, Wales & West, a'r Cynghorydd Samantha Cotton am eu cydweithrediad er mwyn ceisio sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hwylus a hygyrch i fwy o drigolion Deganwy”.

 

DIWEDD

You may also be interested in

Money

Dementia support clinic coming to Nationwide Llandudno

Tuesday, 4 November, 2025
Nationwide will be hosting a dementia support clinic at their branch on Mostyn Street, Llandudno on Tuesday 9th December. Nationwide have teamed up with Dementia UK to offer free, confidential appointments. You don’t need to have a diagnosis to attend.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree