Construction of the new £29.4 million orthopaedic hub at Llandudno Hospital is now underway. Designed for pre-elective surgery, the facility aims to fast-track treatment and significantly reduce pressure on long waiting lists.
Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has long campaigned for this development and previously urged First Minister Eluned Morgan MS, during her time as Health Minister, to prioritise the project.
Commenting on her visit to the site, Janet said:
“I was delighted to meet Dyfed Edwards, Chair of Betsi Cadwaladr University Health Board; Iolo Jones, Senior Projects Manager; Adam Jackson, Programme Manager; and Stuart Keen, Director of Estates, at the new state-of-the-art orthopaedic unit at Llandudno Hospital. This outstanding facility will relieve pressure on orthopaedic services and provide a much-needed boost to local healthcare. The addition of recovery bays and a refurbished radiology department is particularly welcome.
“I was also pleased to learn that around 90% of contractors involved are local firms, including Wynne Construction. This not only supports our health service but also strengthens the North Wales economy.
“I have consistently advocated for the creation of this unit and eagerly anticipate its opening in early spring next year. This project continues the legacy of the late Sir Wyn Roberts, a dedicated champion of Llandudno Hospital and its vital role in serving Aberconwy residents.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae'r gwaith o adeiladu'r ganolfan orthopedig newydd gwerth £29.4 miliwn yn Ysbyty Llandudno bellach wedi dechrau. Wedi'i gynllunio ar gyfer llawdriniaeth cyn-ddewisol, mae'r cyfleuster yn anelu at gyflymu triniaeth a lleihau'n sylweddol y pwysau ar restrau aros hir.
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi ymgyrchu dros y datblygiad hwn ers amser maith ac yn flaenorol wedi annog y Prif Weinidog Eluned Morgan AS, yn ystod ei chyfnod fel Gweinidog Iechyd, i flaenoriaethu'r prosiect.
Ar ôl ymweld â’r safle, dywedodd Janet:
"Roeddwn i’n falch iawn o gwrdd â Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Iolo Jones, Uwch Reolwr Prosiectau; Adam Jackson, Rheolwr Rhaglen; a Stuart Keen, Cyfarwyddwr Ystadau, yn yr uned orthopedig newydd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Llandudno. Bydd y cyfleuster rhagorol hwn yn ysgafnhau'r pwysau ar wasanaethau orthopedig ac yn rhoi hwb mawr ei angen i ofal iechyd lleol. Mae croeso arbennig i'r baeau adfer ac adran radioleg wedi'i hadnewyddu newydd hyn.
"Roeddwn i hefyd yn falch o glywed bod tua 90% o'r contractwyr dan sylw yn gwmnïau lleol, gan gynnwys Wynne Construction. Mae hyn nid yn unig yn cefnogi ein gwasanaeth iechyd ond hefyd yn cryfhau economi Gogledd Cymru.
"Rwyf wedi eirioli'n gyson dros greu'r uned hon ac yn disgwyl yn eiddgar iddi agor yn gynnar yn y gwanwyn nesaf. Mae'r prosiect hwn yn parhau ag etifeddiaeth y diweddar Syr Wyn Roberts, hyrwyddwr ymroddedig o Ysbyty Llandudno a'i rôl hanfodol wrth wasanaethu trigolion Aberconwy."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS