
In Wales, 40% of resident doctors have been left concerned that they will be unemployed this month. A survey by the British Medical Association (BMA) found that many will now be forced to take up “costly and unsustainable” locum work, while others are applying for jobs abroad.
This will have a significant impact on North Wales, at a time when the Betsi Cadwaladr University Health Board has 6,501 patient pathways waiting longer than two years, and 30,536 patient pathways waiting longer than a year for a first outpatient appointment.
These delays in treatment are causing major concern and stress for the constituents of Aberconwy. The number of resident doctors facing unemployment, or looking elsewhere, will only add to this strain in the future. This is a serious failing of the Welsh Government.
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is extremely concerned about the findings of the BMA survey and the impact this will have on our health services.
Commenting on the survey findings, Janet said:
“The fact that 40% of resident doctors in Wales believe they are at risk of unemployment this month is deeply concerning and represents a major failure of the Welsh Labour Government. They have refused to follow the recommendations from Health Education and Improvement Wales to expand specialty training places in line with rising graduate numbers.
“I regularly receive reports from concerned constituents regarding delayed or cancelled treatment, including instances of residents waiting a very long time to start treatment for potentially life-threatening conditions. To address these delays and prepare for the future, we must ensure that we retain qualified doctors in Wales.
“Wales urgently needs more doctors, and that starts with making sure we have enough specialty training places to keep them here. The Welsh Conservatives would implement a comprehensive workforce plan to ensure the retention and recruitment of the medical professionals we need.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Yng Nghymru, mae 40% o feddygon preswyl yn poeni y byddan nhw’n ddi-waith erbyn diwedd y mis hwn. Canfu arolwg gan Gymdeithas Feddygol Prydain y bydd llawer bellach yn cael eu gorfodi i ymgymryd â gwaith locwm "costus ac anghynaliadwy", tra bod eraill yn gwneud cais am swyddi dramor.
Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y Gogledd, ar adeg pan mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 6,501 o lwybrau cleifion yn aros mwy na dwy flynedd, a 30,536 o lwybrau cleifion yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf.
Mae'r oedi hyn cyn cael triniaeth yn achosi pryder a straen mawr i etholwyr Aberconwy. Bydd nifer y meddygon preswyl sy'n wynebu diweithdra, neu'n chwilio am waith yn rhywle arall, yn ychwanegu at y straen hwn yn y dyfodol. Mae hyn yn fethiant difrifol ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn bryderus iawn am ganfyddiadau arolwg Cymdeithas Feddygol Prydain a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ein gwasanaethau iechyd.
Gan gyfeirio at ganfyddiadau'r arolwg, dywedodd Janet:
"Mae'r ffaith bod 40% o feddygon preswyl yng Nghymru yn credu eu bod mewn perygl o golli eu swydd y mis hwn yn destun pryder mawr ac yn cynrychioli methiant mawr ar ran Llywodraeth Llafur Cymru. Maen nhw wedi gwrthod dilyn argymhellion Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ehangu nifer y lleoedd hyfforddi arbenigol yn unol â’r cynnydd yn nifer y graddedigion.
"Rwy'n cael gohebiaeth yn rheolaidd gan etholwyr pryderus ynglŷn â thriniaethau wedi’u gohirio neu eu canslo, gan gynnwys achosion o bobl yn aros am amser hir iawn i ddechrau triniaeth ar gyfer cyflyrau a allai roi eu bywydau yn y fantol. Er mwyn mynd i'r afael â'r oedi hyn a pharatoi ar gyfer y dyfodol, rhaid i ni sicrhau ein bod yn cadw meddygon cymwys yng Nghymru.
"Mae angen mwy o feddygon ar unwaith ar Gymru, ac mae hynny'n dechrau drwy sicrhau bod gennym ni ddigon o leoedd hyfforddi arbenigol i'w cadw yma. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithredu cynllun gweithlu cynhwysfawr i sicrhau ein bod yn cadw ac yn recriwtio'r gweithwyr meddygol proffesiynol sydd eu hangen arnom ni."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS