Yesterday, the Cross-Party group on Littering, Fly-tipping and Waste Reduction launched their booklet containing manifesto proposals that will tackle the prevalent issue of fly-tipping and littering.
These proposals include enhancing deterrents, detection and penalties, as it is by taking a stronger stance against this anti-social behaviour that we can help change people’s mind sets and address the issue.
Janet Finch-Saunders MS, the Member of Welsh Parliament for Aberconwy, is a member of this CPG and welcomes the publication of the booklet.
Commenting on the launch, Janet said:
“I would like to thank Mick Antoniw MS, the Chair of the CPG and everyone who has worked tirelessly to put this booklet together.
“Tackling the growing issue of littering and fly-tipping is of great importance, and requires a significant change in people’s mindsets.
“I have long called for a tougher stance to be taken towards people who litter and fly-tip, as they have a large negative impact on our environment.
“It needs to be made clear that this behaviour is not acceptable. While, the proposals in this booklet cover a wide range of views, we can all agree on there being a need for littering and fly-tipping to be considered a priority by political parties”.
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS at the booklet launch
Ddoe, lansiodd y grŵp Trawsbleidiol ar Daflu Sbwriel, Tipio Anghyfreithlon a Lleihau Gwastraff eu llyfryn sy'n cynnwys cynigion maniffesto a fydd yn mynd i'r afael â'r broblem gyffredin o dipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel.
Mae'r cynigion hyn yn cynnwys gwella ataliadau, datgelu a chosbau, oherwydd drwy gymryd safiad cryfach yn erbyn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn gallwn helpu i newid meddylfryd pobl a mynd i'r afael â'r mater.
Mae Janet Finch-Saunders AS, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn aelod o'r Grŵp Trawsbleidiol hwn ac yn croesawu cyhoeddiad y llyfryn.
Wrth sôn am y lansiad, dywedodd Janet:
"Hoffwn ddiolch i Mick Antoniw AS, Cadeirydd y Grŵp a phawb sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddod â’r llyfryn i fod.
"Mae mynd i'r afael â'r broblem gynyddol hon o daflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn bwysig iawn, ac mae angen newid meddylfryd pobl yn llwyr.
"Rydw i wedi galw ers tro byd am safiad mwy cadarn i ddelio â phobl sy'n taflu sbwriel ac yn tipio’n anghyfreithlon, gan eu bod yn cael effaith negyddol fawr ar ein hamgylchedd.
"Mae angen pwysleisio nad yw'r ymddygiad hwn yn dderbyniol. Er bod y cynigion yn y llyfryn hwn yn rhoi sylw i amrywiaeth eang o safbwyntiau, gall bob un ohonom gytuno bod angen i’n pleidiau gwleidyddol ystyried taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn flaenoriaeth".
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS yn lansio'r llyfryn