
With the Prime Minister set to formally approve investment for the construction of Sizewell C in Suffolk, and announce the outcome of a competition to develop a fleet of Small Modular Reactors (SMRs), Janet Finch-Saunders MS, Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, has highlighted again how developing nuclear projects in Wales would be “commonsense”.
Great British Nuclear (GBN), established by the previous UK Conservative Government, has been managing the UK’s SMR selection process and is set to make a decision.
The four vendors in the competition are GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC, Holtec Britain Ltd, Rolls-Royce SMR Limited, and Westinghouse Electric Company UK Ltd.
GBN owns land for potential new nuclear development at both Wylfa on Ynys Môn and Oldbury-on-Severn in Gloucestershire.
Commenting on the importance of nuclear energy to Wales, Janet said:
“Britain’s five nuclear power stations, which generate about six gigawatts in total, powering 13 million homes, are all nearing the end of their lives.
“Four companies are part of the competition to develop nuclear technology, and they are set to be reduced to two.
“I believe that Great British Nuclear, the body set up by the previous UK Conservative Government, is running a fair and transparent SMR selection process for UK deployment.
“Once the preferred bidder is chosen by GBN it would be commonsense to put the technology in place at sites already owned by the body, which, thanks to the previous UK Conservative Government, already includes Wylfa”.
ENDS
Gyda'r Prif Weinidog ar fin cymeradwyo'n ffurfiol fuddsoddiad ar gyfer adeiladu Sizewell C yn Suffolk, a chyhoeddi canlyniad cystadleuaeth i ddatblygu fflyd o Adweithyddion Modiwlar Bach (SMRs), mae Janet Finch-Saunders AS, Ysgrifennydd y Cabinet yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, wedi tynnu sylw eto at sut y byddai datblygu prosiectau niwclear yng Nghymru yn gwneud "synnwyr cyffredin".
Mae Great British Nuclear (GBN), a sefydlwyd gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, wedi bod yn rheoli’r broses o ddethol Adweithyddion Modiwlar Bach y DU ac mae ar fin gwneud penderfyniad.
Y pedwar yn y gystadleuaeth yw GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC, Holtec Britain Ltd, Rolls-Royce SMR Limited, a Westinghouse Electric Company UK Ltd.
Mae GBN yn berchen ar dir ar gyfer datblygiad niwclear newydd posibl yn Wylfa ar Ynys Môn ac Oldbury-on-Severn yn Swydd Gaerloyw.
Wrth sôn am bwysigrwydd ynni niwclear i Gymru, dywedodd Janet:
"Mae pum gorsaf bŵer niwclear Prydain, sy'n cynhyrchu tua chwe gigawat i gyd, sy'n pweru 13 miliwn o gartrefi, i gyd yn agosáu at ddiwedd eu hoes.
"Mae pedwar cwmni yn rhan o'r gystadleuaeth i ddatblygu technoleg niwclear, ac maen nhw'n mynd i gael eu lleihau i ddau.
"Rwy'n credu bod Great British Nuclear, y corff a sefydlwyd gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, yn cynnal proses dethol Adweithyddion Modiwlar Bach deg a thryloyw ar gyfer eu defnyddio yn y DU.
"Unwaith y bydd y cynigydd a ffefrir yn cael ei ddewis gan GBN byddai'n synnwyr cyffredin rhoi'r dechnoleg ar waith ar safleoedd sydd eisoes yn eiddo i'r corff, sydd, diolch i Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, eisoes yn cynnwys Wylfa".
DIWEDD