Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Have YOUR Say on the Conwy Valley Railway Line! Dweud EICH Dweud am Rheilffordd Dyffryn Conwy?
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Tourism Tax Given Green Light by Welsh Government / Treth Twristiaeth yn cael y Golau Gwyrdd gan Lywodraeth Cymru

  • Tweet
Wednesday, 13 November, 2024
  • Senedd News
Llandudno

Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is severely disappointed to see that following a statement from the Welsh Government that there are plans to push ahead with the tourism tax.

Following a statement from Finance Secretary Mark Drakeford and Economy Secretary Rebecca Evans, the Levy and Registration Bill is set to be introduced to the Senedd on 26 November. 

The proposed legislation would grant councils the authority to introduce a small "visitor levy" aimed at generating additional funds. The bill also includes a registration scheme for accommodation providers, which the government asserts is necessary to support the implementation of the levy.

Commenting on the news Janet said: 

“This is an absolute disaster and I am extremely disappointed that the Welsh Government have decided to press forward with this. 

“Yet another tax coming our way and one that will specifically harm small businesses.

“I have raised this repeatedly over the years, highlighting the harm it will cause. Even after  a consultation that outlines peoples widespread concerns about the tax and what it will mean for local businesses and tourism more broadly, the Welsh Government are still hellbent on introducing yet another tax. 

"Tourism employs one in nine people in Wales, with over 75% in hospitality supporting local communities. Together, these sectors contribute over £3.4 billion annually to Wales’s GDP. 

“A Wales Tourism Alliance survey found 70% of visitors might holiday elsewhere if a tax is introduced. 

“Aberconwy relies on tourism in a way that many simply do not understand. It is our life blood and this tax will only start to clot that essential flow.”

ENDS

 

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn siomedig iawn o weld bod bwriad i fwrw ymlaen â'r dreth twristiaeth, yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru.

Yn dilyn datganiad gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ac Ysgrifennydd yr Economi Rebecca Evans, mae disgwyl i'r Bil Cofrestr ac Ardoll gael ei gyflwyno i'r Senedd ar 26 Tachwedd. 

Byddai'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhoi'r awdurdod i gynghorau gyflwyno "ardoll ymwelwyr" bychan gyda'r nod o gynhyrchu arian ychwanegol. Mae'r bil hefyd yn cynnwys cynllun cofrestru ar gyfer darparwyr llety, y mae'r llywodraeth yn honni sy'n angenrheidiol i gefnogi gweithredu'r ardoll.

Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet: 

"Mae'n drychineb llwyr ac rwy'n hynod siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu bwrw ymlaen â hyn.

"Treth arall i ni, ac un a fydd yn niweidio busnesau bach yn benodol.

"Rydw i wedi codi hyn droeon dros y blynyddoedd, gan dynnu sylw at y niwed y bydd yn ei achosi. Hyd yn oed ar ôl ymgynghoriad sy'n amlinellu pryderon eang pobl am y dreth a'r hyn y bydd yn ei olygu i fusnesau lleol a thwristiaeth yn ehangach, mae Llywodraeth Cymru yn dal i fynnu cyflwyno treth arall eto fyth.

"Mae twristiaeth yn cyflogi un o bob naw person yng Nghymru, gyda dros 75% ym maes lletygarwch yn cefnogi cymunedau lleol. Gyda'i gilydd, mae'r sectorau hyn yn cyfrannu £2.4 biliwn bob blwyddyn at Gynnyrch Domestig Gros Cymru.

"Datgelodd arolwg gan Gynghrair Twristiaeth Cymru y gallai 70% o ymwelwyr fynd ar eu gwyliau i fannau eraill os cyflwynir y dreth. 

"Mae Aberconwy yn dibynnu ar dwristiaeth mewn ffordd nad yw llawer yn ei deall. Dyma ein bara menyn a bydd y dreth hon yn glec enfawr."

DIWEDD

 

You may also be interested in

Janet

Royal Cambrian Academy of Arts Forming a Way Forward to Reopening

Friday, 12 September, 2025
On Monday 11th and Friday 15th August, the then Royal Cambrian Academy Committee served official notice to RCA members that the Royal Cambrian Academy of Art, founded in 1881–82, would close permanently on Sunday 24th August 2025. Since then, there have been positive developments.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree