Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Have YOUR Say on the Conwy Valley Railway Line! Dweud EICH Dweud am Rheilffordd Dyffryn Conwy?
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

£70m a year wasted on Active Travel / £70 miliwn y flwyddyn yn cael ei wastraffu ar Deithio Llesol

  • Tweet
Wednesday, 24 July, 2024
  • Senedd News
Hill

Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is concerned that the Welsh Government are wasting vast sums of money on their Active Travel schemes.

In 2023/24, the Welsh Government spent £72.6m on the scheme, £60.6m in 2022/23 and £70.3m in 2021/22. The scheme is the most expensive out of the devolved nations with a price this year per capita of £23.37.

However, this increase in spending has not translated into increased rates of Active Travel.

Indeed, statistics from the National Survey for Wales reveal that in both 2021/22 and 2022/23, 6% of people cycled at least once a week, and 51% of people walked at least once a week for active travel purposes.

Additionally, since 2018, the figure for people cycling at least once a month has fluctuated between 8% and 10%, showing  no discernible upward trend.

Commenting on this revelation, Janet has said:

“It is ridiculous that whilst millions of pounds has been poured into Active Travel projects. There has been no increase in the number of cyclists and walkers in 2022 from 2023.

“The money would be far better spent on improving highways, removing the dangerous roundabouts on the A55 and delivering the third Menai crossing.

“It is another scheme that yet again shows us that the priorities of the Welsh Government are completely wrong.

“Here in Aberconwy we have roads being ripped up and completely redesigned to accommodate Active Travel routes, yet clearly they are not being used. I agree cycle tracks can be useful but only where they are needed.

“In an era when Betsi Health Board is on its knees, wanting to spend £70m a year on this scheme is completely fiscally irresponsible.”

ENDS

 

 

 

Notes

  1. Ken Skates MS in response to Janet Finch-Saunders Written Answer Question

The most recent available data is for 2021-22 and 2022-23 and is published on Statistics Wales website as well as in statistical bulletins Active travel (walking and cycling) | GOV.WALES.  The data for both years, April 2021 to March 2022 and April 2022 to March 2023, shows that among adults aged 16+ and over:

•             6% of people cycled at least once a week for active travel purposes

•             51% of people walked at least once a week for active travel purposes

The National Survey only captures walking journeys of at least 10 minutes, which means that short walking trips would not be counted.

Full response found here

 

 

Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn poeni fod Llywodraeth Cymru yn gwastraffu symiau enfawr o arian ar eu cynlluniau Teithio Llesol.

Yn 2023/24, gwariodd Llywodraeth Cymru £72.6 miliwn ar y cynllun, gwariodd £60.6 miliwn yn 2022/23 a £70.3 miliwn yn 2021/22. Dyma’r cynllun teithio llesol drytaf yn y gwledydd datganoledig gyda phris y pen o £23.37 eleni.

Fodd bynnag, dyw'r cynnydd hwn mewn gwariant ddim wedi trosi i gyfraddau uwch o Deithio Llesol.

Yn wir, mae ystadegau gan Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 6% o bobl yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos yn 2021/22 a 2022/23, ac roedd 51% o bobl yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol.

Hefyd, ers 2018, mae'r ffigur ar gyfer pobl sy'n beicio o leiaf unwaith y mis wedi amrywio rhwng 8% a 10%, heb ddangos unrhyw duedd amlwg i gynyddu.

Wrth sôn am hyn, dywedodd Janet:

"Mae'n chwerthinllyd. Er bod miliynau o bunnoedd wedi'u lluchio at brosiectau Teithio Llesol, ni fu cynnydd yn nifer y beicwyr a'r cerddwyr rhwng 2022 a 2023.

"Byddai'r arian yn cael ei wario'n llawer gwell ar wella priffyrdd, cael gwared ar y cylchfannau peryglus ar yr A55 a thrydedd croesfan dros y Fenai.

"Mae'n gynllun arall sydd unwaith eto yn dangos i ni fod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn hollol anghywir.

"Yma yn Aberconwy mae gennym ni ffyrdd yn cael eu rhwygo a'u hailgynllunio'n llwyr i ddarparu ar gyfer llwybrau Teithio Llesol, ond yn amlwg dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio. Rwy'n cytuno y gall traciau beicio fod yn ddefnyddiol ond dim ond mewn lleoliadau lle mae eu hangen.

"Mewn oes pan mae Bwrdd Iechyd Betsi ar ei gliniau, mae’r dymuniad i wario £70 miliwn y flwyddyn ar y cynllun hwn yn gwbl anghyfrifol."

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion:

  1. Ken Skates AS mewn ymateb i Gwestiwn Ateb Ysgrifenedig gan Janet Finch-Saunders

Mae'r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer 2021-22 a 2022-23 ac mae wedi’i gyhoeddi ar wefan Ystadegau Cymru yn ogystal ag mewn bwletinau ystadegol ar deithio llesol (cerdded a beicio) | LLYW. CYMRU.  Mae'r data ar gyfer y ddwy flynedd o fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022 ac o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, yn dangos bod y canlynol yn wir ymhlith oedolion 16+ oed a throsodd:

•             mae 6% o bobl yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol

•             mae 51% o bobl yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol

Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn cipio data dim ond ar gyfer teithiau cerdded sy’n para o leiaf 10 munud, sy'n golygu na fyddai teithiau cerdded byr yn cael eu cyfri.

Mae’r ateb llawn ar gael yma (Saesneg yn unig)

 

You may also be interested in

Janet

Royal Cambrian Academy of Arts Forming a Way Forward to Reopening

Friday, 12 September, 2025
On Monday 11th and Friday 15th August, the then Royal Cambrian Academy Committee served official notice to RCA members that the Royal Cambrian Academy of Art, founded in 1881–82, would close permanently on Sunday 24th August 2025. Since then, there have been positive developments.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree