Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Welsh Government 20mph Crisis a Costly Car Crash / Argyfwng 20mya Llywodraeth Cymru yn ffwlbri costus

  • Tweet
Monday, 22 April, 2024
  • Senedd News
20mph

Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is concerned that Welsh Labour’s U-turn over the weekend on the 20mph policy will mean more taxpayer’s money is squandered.

In response to the widespread public outcry over the implementation of the £34 million default 20mph speed limit policy across Wales, certain roads could be reinstated to a 30mph limit.

Transport Secretary Ken Skates said the changes address the concerns that "a lot of people" have raised "on a consistent basis”, and thus "we've put our hands up to say the guidance has to be corrected.”

However, while Swansea council leader Rob Stewart welcomed the change, he has noted that the government must help foot the bill to swap signage. Janet has already highlighted this issue and previously requested local authorities to preserve the old 30mph signs in anticipation of leadership changes and the forthcoming review.

Commenting on the news Janet said:

“Although I appreciate that the Welsh Government is staring to listen to the public and Welsh Conservative group, I am deeply concerned about the significant cost this will impose on our taxpayers and local authorities.

“When the review is complete and sanity has prevailed, who is going to foot the bill to make the changes necessary? £30 million has already been spent on introducing this policy with new signs erected across Wales, polluting and cluttering our beautiful quaint hamlets, villages and towns.

“This policy has been an absolute disaster from day one. Almost 1 in 6 people in Wales not only disagree with the policy but have actively signed a petition outlining their opposition to the policy.

“With a new First Minister in place, as I anticipated, a cosmetic change in direction is now underway. Therefore I hope that local authorities have kept the 30mph signs they removed. Otherwise the incompetence of the Welsh Government is going to come with a hefty price tag.

“This is yet another instance of a government disconnected from the people's priorities and demonstrating an astonishing track record of pouring taxpayers money in the gutter.”

ENDS

 

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn poeni y bydd tro pedol Llafur Cymru dros y penwythnos ar y polisi 20mya yn golygu y bydd mwy o arian trethdalwyr yn cael ei wastraffu.

Mewn ymateb i'r brotest gyhoeddus eang dros weithredu'r polisi terfyn cyflymder 20mya cyffredinol gwerth £34 miliwn ledled Cymru, mae’n bosib y bydd rhai ffyrdd yn cael eu hadfer i derfyn o 30mya.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, bod y newidiadau'n mynd i'r afael â'r pryderon yr oedd "llawer o bobl" wedi’u codi "yn gyson", ac felly "rydyn ni wedi rhoi ein dwylo i fyny i ddweud bod rhaid cywiro'r canllawiau".

Fodd bynnag, tra bod arweinydd cyngor Abertawe, Rob Stewart, wedi croesawu'r newid, mae wedi nodi bod yn rhaid i'r llywodraeth helpu i dalu’r bil am unrhyw arwyddion newydd. Mae Janet eisoes wedi tynnu sylw at y mater hwn ac wedi gofyn yn y gorffennol i awdurdodau lleol gadw’r hen arwyddion 30mya gan ragweld newidiadau i arweinyddiaeth a'r adolygiad sydd ar ddod.

Wrth sôn am y newyddion, dywedodd Janet:

"Er fy mod yn gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru yn dechrau gwrando ar y cyhoedd a’r grŵp Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n bryderus iawn am y gost sylweddol i’n trethdalwyr ac i awdurdodau lleol.

"Pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau a phawb wedi dod at eu coed, pwy sy'n mynd i dalu’r bil i wneud y newidiadau angenrheidiol? Mae £30 miliwn eisoes wedi'i wario ar gyflwyno'r polisi hwn gydag arwyddion newydd wedi'u codi ledled Cymru, gan lygru a chreithio ein pentrefannau, pentrefi a threfi hardd.

"Mae'r polisi hwn wedi bod yn drychineb llwyr o'r dechrau’n deg. Mae bron i 1 o bob 6 o bobl yng Nghymru nid yn unig yn anghytuno â'r polisi ond wedi arwyddo deiseb yn amlinellu eu gwrthwynebiad i'r polisi.

"Gyda Phrif Weinidog newydd, yn unol â’r disgwyl, mae newid cyfeiriad cosmetig bellach ar y gweill. Felly, rwy'n gobeithio bod awdurdodau lleol wedi cadw'r arwyddion 30mya a dynnwyd. Fel arall, mae traed moch Llywodraeth Cymru yn mynd i gostio’n ddrud dros ben.

"Dyma enghraifft arall eto fyth o lywodraeth sy’n ddi-glem am flaenoriaethau'r bobl – llywodraeth sydd wedi dangos hanes rhyfeddol o luchio arian trethdalwyr i’r gwter."

DIWEDD

 

You may also be interested in

Vote

Education Committee Votes to Defer Decision on Ysgol Betws-y-Coed Consultation / Pwyllgor Addysg yn Pleidleisio i Ohirio Penderfyniad ar Ymgynghoriad Ysgol Betws-y-Coed

Wednesday, 5 November, 2025
After Cllr Aaron Wynne, Cabinet Member for Education, Conwy County Borough Council, presented a report to the Education Committee on 4/11/2025 with the aim of commencing a consultation on the potential closure of Ysgol Betws-y-Coed, the Committee voted to support the proposal by Cllr Liz Roberts to

Sign up and support #OperationPickstock

Stay informed on this and other local issues.

The information you provide is used in accordance with our Data Protection and Privacy Policy. By clicking this button you agree to your information being used in accordance with that policy. | Defnyddir eich manylion cyswllt yn unol â'n polisi Casglu a Defnyddio Data. Trwy glicio ar y botwm hwn rydych chi'n cytuno i'ch cyfeiriad e-bost gael ei ddefnyddio yn unol â'r polisi hwnnw.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree