Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Have YOUR Say on the Conwy Valley Railway Line! Dweud EICH Dweud am Rheilffordd Dyffryn Conwy?
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Welsh Government Needs Fresh Plan on NHS / Angen cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i'r GIG

  • Tweet
Thursday, 17 October, 2024
  • Senedd News
Janet

Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy has welcomed a report by the Healthcare Inspectorate Wales on the state of healthcare in Wales. 

The report highlights both the ongoing pressures and positive developments in the Welsh health and care system, and acknowledges staff contributions and innovative efforts to improve services despite challenges. 

However, long-term progress requires addressing social care issues, investing in NHS infrastructure, and shifting focus toward preventative measures. A lack of financial certainty is a major obstacle, impacting service delivery, outcomes for patients, and the ability to recruit and retain staff amid high demand.

Commenting on the report Janet said: 

“I am somewhat saddened by this report, however not surprised. The report reveals that the system is still grappling with significant workforce shortages, rising demand for services, and ongoing issues with patient flow, all of which are affecting both planned and emergency care. 

“Over 600 concerns were raised this year, and HIW engaged with more than 8,200 patients, staff, and carers to gather crucial insights into their experiences with healthcare services.

“There is significant pressure on Emergency Departments across the country with patients often facing delays in assessment and treatment, with many waiting longer for hospital admission due to bed shortages.

“We need a new plan from the Welsh Government for our Welsh NHS. Nothing is working, and reports that the First Minister and Secretary of State for Wales are unable to agree on whether Wales will accept help with reducing waiting lists from England is simply not right when we should be taking up the opportunity without delay”.

ENDS

 

Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wedi croesawu adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyflwr gofal iechyd yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y pwysau parhaus a'r datblygiadau cadarnhaol yn system iechyd a gofal Cymru, ac yn cydnabod cyfraniadau staff ac ymdrechion arloesol i wella gwasanaethau er gwaetha'r holl heriau. 

Fodd bynnag, mae angen mynd i'r afael â materion gofal cymdeithasol, buddsoddi yn seilwaith y GIG, a symud y pwyslais tuag at fesurau ataliol, er mwyn sicrhau cynnydd hirdymor. Mae diffyg sicrwydd ariannol yn rhwystr mawr, gan effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau, canlyniadau i gleifion, a'r gallu i recriwtio a chadw staff yng nghanol galw mawr.

Wrth sôn am yr adroddiad dywedodd Janet: 

“Mae'r adroddiad hwn yn dorcalonnus braidd, ond nid yw'n syndod. Mae'r adroddiad yn datgelu bod y system yn dal i fynd i'r afael â phrinder sylweddol yn y gweithlu, y galw cynyddol am wasanaethau, a phroblemau parhaus gyda llif cleifion - y cyfan yn effeithio ar ofal wedi'i gynllunio a gofal mewn argyfwng. 

“Cafodd 600 a mwy o bryderon eu codi eleni, a bu AGIC yn trafod â mwy nag 8,200 o gleifion, staff a gofalwyr i gasglu dealltwriaeth hanfodol o’u profiadau o’r gwasanaethau gofal iechyd.

“Mae pwysau sylweddol ar Adrannau Achosion Brys ar draws y wlad gyda chleifion yn aml yn wynebu oedi am asesiadau a thriniaeth, gyda llawer yn aros yn hirach am fynediad i'r ysbyty oherwydd prinder gwelyau.

“Mae angen cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein GIG yma yng Nghymru.  Does dim byd yn gweithio, ac mae adroddiadau am Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn methu â chytuno a fydd Cymru'n derbyn help i leihau rhestrau aros o Loegr yn gwbl anghywir, pan ddylen ni fod yn manteisio ar y cyfle yn ddi-oed”.

DIWEDD

 

You may also be interested in

Janet

Royal Cambrian Academy of Arts Forming a Way Forward to Reopening

Friday, 12 September, 2025
On Monday 11th and Friday 15th August, the then Royal Cambrian Academy Committee served official notice to RCA members that the Royal Cambrian Academy of Art, founded in 1881–82, would close permanently on Sunday 24th August 2025. Since then, there have been positive developments.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree