Yesterday, the Senedd gave consent to a Legislative Consent Motion on the Animal Welfare (Import of Dogs, Cats and Ferrets) Bill. This will close existing loopholes that are currently being exploited by puppy and other animal smugglers.
The Bill will tackle the illegal importation of cats, dogs, and ferrets, who are often transported in conditions that severely impact their health and wellbeing. Some of the animals being smuggled are heavily pregnant, too young to be separated from their mother, or have been mutilated, such as through ear cropping or being declawed, practices that are banned in the UK.
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, welcomed the Bill.
Commenting on the LCM recommendation, Janet said:
“We are a nation of animal lovers. The regulations set out in the LCM will enact a former UK Conservative manifesto commitment to close the loopholes that animal smugglers are exploiting.
“Too often, these poor animals are smuggled into the UK in horrendous conditions. This cannot be allowed to continue, and this Bill will address it.”
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Ddoe, rhoddodd y Senedd ei gydsyniad i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau). Bydd hyn yn cau bylchau presennol sy'n cael eu hecsbloetio ar hyn o bryd gan smyglwyr cŵn bach ac anifeiliaid eraill.
Bydd y Bil yn mynd i'r afael â mewnforio cathod, cŵn a ffuredau yn anghyfreithlon, sy'n aml yn cael eu cludo dan amodau sy'n effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd a'u lles. Mae rhai o'r anifeiliaid sy'n cael eu smyglo yn feichiog iawn, maen nhw’n rhy ifanc i gael eu gwahanu oddi wrth eu mam, neu wedi cael eu hanffurfio, er enghraifft drwy dorri eu clustiau neu dynnu eu crafangau, arferion sydd wedi'u gwahardd yn y DU.
Cafodd y Bil ei groesawu gan Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy.
Gan gyfeirio at argymhelliad y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, dywedodd Janet:
"Rydyn ni’n genedl sydd wrth ein boddau hefo anifeiliaid. Bydd y rheoliadau a nodir yn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn gweithredu cyn ymrwymiad ym maniffesto Ceidwadwyr y DU i gau'r bylchau y mae smyglwyr anifeiliaid yn eu hecsbloetio.
"Yn rhy aml, mae'r anifeiliaid truenus hyn yn cael eu smyglo i'r DU dan amodau ofnadwy. Ni ellir caniatáu i hyn barhau, a bydd y Bil hwn yn mynd i'r afael â’r sefyllfa."
Llun: Janet Finch-Saunders AS