
The Spending Review announced by the Chancellor yesterday is expected to see eight departments see cuts to their budget between this year and the end of the parliament.
The Director of the Institute for Fiscal Studies has warned that there will be £140 billion of extra borrowing forecast by the end of this parliament. That borrowing incurs a cost in the form of additional debt interest – and one that’s bigger than it was a year ago.
The IFS also warned that whilst funding for the day-to-day running of public services would grow about 1.2% above inflation, increases in funding for the Welsh NHS could easily absorb most, if not all, of this increase, resulting in the Welsh Government having to decide carefully which areas to prioritise and which to cut back.
Responding to the Spending Review, Janet said:
“As Kemi Badenoch rightly highlighted, this is a spend now, tax tomorrow government.
“This morning, the Chancellor repeated that she has no plans to increase taxes, but this doesn't rule out a big tax rise in the autumn.
“In fact, a number of economists are already predicting tax rises being announced later this year.
“The potential of further increases and therefore costs to all of us tax payers is even greater given the latest GDP figures show the economy shrank by 0.3% in April - more than predicted by experts.
“The best step the UK Government and Welsh Government can now take is to tackle head on all policies that are hampering economic growth, including changes to national insurance, business rates, and over burdensome regulations in several sectors. As it stands we in Wales are likely heading towards tax increases from the UK Labour Government and cuts by the Welsh Labour Government, so will be paying even more for even less”.
ENDS
Disgwylir i'r Adolygiad Gwariant a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddoe weld wyth adran yn gweld toriadau i'w cyllideb rhwng eleni a diwedd tymor y senedd.
Mae Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi rhybuddio bod £140 biliwn o fenthyca ychwanegol yn cael ei ragweld erbyn diwedd y senedd hon. Mae'r benthyca hwnnw'n golygu cost ar ffurf llog dyled ychwanegol – ac un sy'n fwy nag yr oedd flwyddyn yn ôl.
Rhybuddiodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd, er y byddai cyllid ar gyfer cynnal gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd yn tyfu tua 1.2% yn uwch na chwyddiant, gallai cynnydd mewn cyllid ar gyfer GIG Cymru amsugno'r rhan fwyaf o'r cynnydd hwn, os nad y cyfan, gan olygu y byddai Llywodraeth Cymru yn gorfod penderfynu'n ofalus pa feysydd i'w blaenoriaethu a pha rai i'w torri.
Wrth ymateb i'r Adolygiad Gwariant, dywedodd Janet:
"Fel yr amlygodd Kemi Badenoch, mae hon yn llywodraeth sy’n gwario nawr, ac a fydd yn trethu yfory.
"Y bore ’ma, ailadroddodd y Canghellor nad oes ganddi unrhyw gynlluniau i gynyddu trethi, ond nid yw hyn yn diystyru cynnydd mawr mewn treth yn yr hydref.
"Mewn gwirionedd, mae nifer o economegwyr eisoes yn rhagweld codiadau treth yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
"Mae'r potensial o gynnydd pellach ac felly costau i bob un ohonom fel trethdalwyr hyd yn oed yn fwy o ystyried bod y ffigyrau CMC diweddaraf yn dangos bod yr economi wedi crebachu 0.3% ym mis Ebrill – ffigur uwch na’r hyn a ragwelwyd gan arbenigwyr.
"Y cam gorau y gall Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ei gymryd nawr yw mynd i'r afael yn benodol â’r holl bolisïau sy'n rhwystro twf economaidd, gan gynnwys newidiadau i yswiriant gwladol, ardrethi busnes, a rheoliadau sy’n rhy feichus mewn sawl sector. Fel y mae pethau, mae'n debygol y byddwn ni yng Nghymru yn wynebu codiadau treth gan Lywodraeth Lafur y DU a thoriadau gan Lywodraeth Lafur Cymru, felly byddwn yn talu hyd yn oed mwy am lai ".
DIWEDD