
Yesterday, a new memorial stone was unveiled at Mountbatten Green to honour the memory of 11 young soldiers from Penrhyn Bay who gave their lives during World War Two.
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, attended the poignant memorial event and paid her respects to the 11 brave men, one of whom was the local butcher, serving as a reminder that the war impacted all groups, trades, and areas of society.
Commenting on the memorial service, Janet said:
“Attending memorial events like this is of great importance, as we must remember those who have served and paid the ultimate sacrifice to protect the freedom that we all enjoy.
“I was honoured to attend the unveiling of the new memorial stone at Mountbatten Green in Penrhyn Bay. The event was well attended and included family members of the men who had fallen. This demonstrates the clear sense of pride and gratitude that we, as a community, have for these men.
“I would like to thank Adrian Hughes, elected members, and everyone else who helped to make this very important event a great and reflective success.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Ddoe, dadorchuddiwyd carreg goffa newydd yn Mountbatten Green er cof am 11 o filwyr ifanc o Fae Penrhyn a gollodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Fe aeth Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, i’r digwyddiad coffa ingol a thalu teyrnged i'r 11 o ddynion dewr, un ohonyn nhw’n gigydd lleol, gan ein hatgoffa bod y rhyfel wedi effeithio ar bob grŵp, crefft a rhan o gymdeithas.
Wrth sôn am y gwasanaeth coffa, dywedodd Janet:
"Mae mynd i ddigwyddiadau coffa fel hyn yn bwysig iawn, gan fod rhaid i ni gofio'r rhai sydd wedi gwasanaethu a gwneud yr aberth eithaf i amddiffyn y rhyddid rydyn ni i gyd yn ei fwynhau.
"Roedd yn anrhydedd i mi fod yn bresennol pan ddadorchuddiwyd y garreg goffa newydd yn Mountbatten Green ym Mae Penrhyn. Roedd y digwyddiad yn un gwych ac roedd yn cynnwys aelodau teulu'r dynion a syrthiodd. Mae hyn yn dangos yr ymdeimlad clir o falchder a diolchgarwch sydd gennym ni, fel cymuned, tuag at y dynion hyn.
"Hoffwn ddiolch i Adrian Hughes, yr aelodau etholedig a phawb arall a helpodd i sicrhau llwyddiant y digwyddiad pwysig a theimladwy iawn hwn."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS