Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Over 1,000 Deaths While Waiting for Treatment in A&E Departments in B.C.U.H.B/Dros 1,000 o farwolaethau wrth aros am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn BIPBC

  • Tweet
Thursday, 27 November, 2025
  • Local News
Janet

Over 1,000 Deaths While Waiting for Treatment in A&E Departments in B.C.U.H.B

 

An FOI request has shown that 1,027 people have died while waiting for treatment in Accident and Emergency departments in the Betsi Cadwaladr University Health Board. Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, was shocked by the numbers released, stating:

 

“Following a request from a constituent to submit an FOI on deaths in A&E departments, I am shocked and upset, by the figures released. While I acknowledge and welcome that where a condition is judged to be potentially life-threatening a patient would be appropriately prioritised, as well as the fact that patients who passed away in the A&E department might not have been seeking medical assistance for issues relating to their cause of death, these figures are shocking.

 

“In the 24 months leading up to 30 September 2025, 297 patients died in Ysbyty Gwynedd while waiting for treatment in A&E, 385 patients in Ysbyty Glan Clwyd, and 345 in Wrexham Maelor Hospital.

 

“Questions need to be asked about the role that long waiting times are having on these statistics. Even in my own constituency, I have heard from residents that some who need to seek medical treatment decline going to hospital as a result of these long waits. One constituent waited hours in pain and later signed a letter confirming his decision not to attend hospital again due to this past experience.

 

“This is unacceptable, and I call on the Welsh Government to conduct an inquiry into the role long waiting times are having on deaths in A&E departments, as well as to take immediate action to reduce these times.”

 

ENDS

Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS

Mae cais Rhyddid Gwybodaeth wedi dangos bod 1,027 o bobl wedi marw wrth aros am driniaeth mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi’i syfrdanu gyda’r niferoedd a gyhoeddwyd, a dywedodd:

 

"Yn dilyn cais gan etholwr i gyflwyno Cais Rhydid Gwybodaeth ar farwolaethau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, rwyf wedi fy syfrdanu ac yn teimlo’n flin ar ôl gweld y ffigurau a gyhoeddwyd. Er fy mod yn cydnabod y byddai cleifion sydd â chyflyrau y bernir eu bod yn peryglu bywyd yn cael eu blaenoriaethu'n briodol, yn ogystal â'r ffaith nad oedd rhai o’r cleifion a fu farw yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn ceisio cymorth meddygol ar gyfer rhywbeth oedd yn ymwneud ag achos eu marwolaeth, mae'r ffigurau hyn yn syfrdanol.

 

"Yn y 24 mis cyn 30 Medi 2025, bu farw 297 o gleifion yn Ysbyty Gwynedd wrth aros am driniaeth yn yr uned damweiniau ac achosion brys. Y ffigurau cyfatebol ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam yw 385 a 345 yn y drefn honno.

 

"Mae angen gofyn cwestiynau am y rôl y mae amseroedd aros hir yn ei chwarae ar yr ystadegau hyn. Hyd yn oed yn fy etholaeth fy hun, rwyf wedi clywed gan drigolion bod rhai sydd angen triniaeth feddygol yn gwrthod mynd i'r ysbyty o ganlyniad i'r amseroedd aros hir. Arhosodd un etholwr am oriau mewn poen ac yn ddiweddarach llofnododd lythyr yn cadarnhau ei benderfyniad i beidio â mynychu'r ysbyty eto oherwydd y profiad blaenorol hwn.

 

"Mae hyn yn annerbyniol, ac rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad i'r rôl y mae amseroedd aros hir yn ei chael ar farwolaethau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yn ogystal â chymryd camau ar unwaith i leihau'r amseroedd hyn."

 

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS

 

 

 

 

You may also be interested in

Janet

Pride in Place Funding Coming to Llandudno

Wednesday, 7 January, 2026
Yesterday, it was announced that Conwy County Borough Council’s Cabinet has put forward a Llandudno-based neighbourhood for the Pride of Place Programme, run by the UK Government. Following this announcement, Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, commented:&nbs

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree