Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Have YOUR Say on the Conwy Valley Railway Line! Dweud EICH Dweud am Rheilffordd Dyffryn Conwy?
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Heat on Welsh Government to ensure that Wales is more resilient in the face of high temperatures / Pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru'n gallu gwrthsefyll tywydd poeth iawn

  • Tweet
Tuesday, 19 July, 2022
  • Senedd News
Janet

With temperatures expected to hit 40C today for the first time ever, and as forecasters warn that record-breaking heat could return later in the summer, Janet Finch-Saunders MS, Shadow Minister for Climate Change, has called on the Welsh Government to implement her 7 point action plan.

 

A two-day period of unprecedented weather conditions saw Wales set a new provisional temperature record of 37.1C yesterday. A heat dome is expected to develop over the Mediterranean in August that could pull very high temperatures into the UK once again.

 

Acknowledging that higher temperatures is part of a long term trend linked to climate change, the Shadow Minister, Janet said:

 

“Whilst the hot weather is expected to break tomorrow, we need to keep up the heat on the Welsh Government.

 

“Climate change is likely to increase heat-related mortality, heat stroke and heat exhaustion indoors. Projections of heat-related mortality show that in Wales, heat-related deaths could increase from a baseline of 2.4 per 100,000 people per year to 6.5 per 100,000 by the 2050s. That’s over a doubling of risk!

 

“Last year I highlighted that the UK Climate Change Risk Assessment (CCRA3) Summary for Wales made clear that more action was needed to safeguard health and well-being from a rise in temperatures. 

 

“In fact the impact of increasing high temperatures on people’s health and wellbeing in Wales was given a high future magnitude score and noted as an area where more action is required now.

 

“Several actions need to be taken by the Welsh Government to ensure that Wales is more resilient in the face of future high temperatures. My plan includes:

1. Tackling the major policy gap that is the lack of measures to prevent overheating in Building Regulations and other housing policy affecting new build and existing homes

2. Investigating the ability of continued energy supply in light of high and low temperatures

3. Delivering the overdue Clean Air Act for Wales

4. Addressing the lack of data on the impact of high and low temperatures, wind and lightning on road infrastructure and other receptors;

5. Championing food production and security in Wales as a means of tackling the key risk of variability in access to food due to disruptions to the supply chain from arising weather events and climate hazards.

6. Working with business and industry to develop sector specific resilience plans in the face of significant direct impacts of temperature extremes on productivity in, for example, the industrial, construction, agriculture and tourism sectors (there would be less impact on the services sectors given this is predominantly indoor activity)

7. Increasing urban tree planting”

ENDS 

 

 

Gyda disgwyl i'r tymheredd daro 40C heddiw am y tro cyntaf erioed, a rhybudd am ragor o dywydd crasboeth yn ddiweddarach yn yr haf, mae Janet Finch-Saunders AS, y Gweinidog  Cysgodol dros Newid Hinsawdd, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi ei chynllun gweithredu 7 pwynt ar waith.

 

Dros ddeuddydd o dywydd digynsail, llwyddodd Cymru i dorri record newydd gyda thymheredd o 37.1C ddoe. Disgwylir i gromen wres ddatblygu dros Fôr y Canoldir ym mis Awst a allai olygu pwl o dywydd poeth arall i'r DU.

 

Gan gydnabod bod tymheredd uwch yn rhan o batrwm hirdymor sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, dywedodd y Gweinidog Cysgodol, Janet:

 

“Er bod disgwyl i'r gwres dorri yfory, mae angen i ni barhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru.

 

“Mae newid hinsawdd yn debygol o gynyddu nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres, trawiad gwres a gorludded gwres dan do. Mae amcanestyniadau o farwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres yn dangos y gallai achosion yng Nghymru gynyddu o waelodlin o 2.4 fesul 100,000 o bobl y flwyddyn i 6.5 fesul 100,000 erbyn y 2050au. Mae hynny dros ddwywaith y risg!

 

“Y llynedd, tynnais sylw at y ffaith bod Crynodeb Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU (CCRA3) ar gyfer Cymru wedi nodi'n glir bod angen cymryd mwy o gamau i ddiogelu iechyd a lles wrth i dymheredd godi.

 

“Yn wir, cafodd effaith rhagor o dymheredd uchel ar iechyd a lles pobl yng Nghymru sgôr risg uchel at y dyfodol, a’i nodi fel maes lle mae angen gweithredu pellach ar unwaith.

 

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd sawl cam i sicrhau bod Cymru'n gallu gwrthsefyll tymereddau uchel yn y dyfodol. Mae fy nghynllun yn cynnwys:

 

1. Mynd i'r afael â'r bwlch polisi mawr, sef diffyg mesurau i atal gorboethi mewn Rheoliadau Adeiladu a pholisi tai arall sy'n effeithio ar adeiladau newydd a chartrefi presennol

2. Ymchwilio i allu cyflenwad ynni parhaus yng ngoleuni tymheredd uchel ac isel

3. Cyflawni'r Ddeddf Aer Glân hir-ddisgwyliedig i Gymru

4. Mynd i'r afael â'r diffyg data ar effaith tymheredd uchel ac isel, gwynt a mellt ar seilwaith ffyrdd a derbynyddion eraill;

5. Hybu a hyrwyddo cynhyrchu a diogelwch bwyd yng Nghymru fel ffordd o fynd i'r afael â'r risg allweddol o ddiffyg bwyd amrywiol oherwydd tarfu ar y gadwyn gyflenwi yn sgil amodau tywydd a pheryglon hinsawdd newydd.

6. Gweithio gyda busnesau a diwydiant i ddatblygu cynlluniau ymdopi sector-benodol yn wyneb effeithiau uniongyrchol sylweddol tymheredd eithafol ar gynhyrchiant yn y sectorau diwydiannol, adeiladu, amaethyddiaeth a thwristiaeth, er enghraifft (byddai llai o effaith ar y sectorau gwasanaethau gan mai gwaith dan do ye hwn yn bennaf).

7. Plannu mwy o goed trefol”

DIWEDD 

You may also be interested in

Janet

Calls for C.C.B.C. Cabinet to “LISTEN” to Residents on Library Move

Tuesday, 1 July, 2025
Following the publication of the report to go, to the Economy and Place Overview and Scrutiny Committee tomorrow 2nd July at 5:30 pm. Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is calling on Councillors to reject any suggestions of moving Llandudno Library and Touri

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree