
For fans of the paranormal, the Llandudno Ghost Walk offers a fantastic opportunity to learn about the history of Llandudno through an imaginative and entertaining tour, guided by “the Monk of The Great Orme”.
This wonderful experience is run by one of Llandudno’s local hoteliers, Rodney Davies, and provides a unique night-time adventure filled with chilling historical spooky tales, and the haunted history of the area.
The Llandudno Ghost Walk takes place every Wednesday, Friday, and Saturday at 8pm.
Janet Finch-Saunders, the Member of Welsh Parliament for Aberconwy, welcomes this ghost tour, which enables both locals and visitors to explore Llandudno and learn about its history in a fun and interactive way.
Commenting on the Llandudno Ghost Walk , Janet said:
“I would like to thank and congratulate Rodney Davies for the creation of the Llandudno Ghost Walk. This provides people across Aberconwy and visitors with the chance to learn more about Llandudno’s history, in a fun and interactive way.
“I wish Rodney all of the best with the tour and look forward to joining a trip soon.
“For an evening filled with fun and entertainment, I highly recommend that you consider booking on to this tour too”.
ENDS
Photo: Leaflet for the Llandudno Ghost Walk
I bawb sydd wrth eu bodd â’r paranormal, mae Taith Gerdded Ysbrydion Llandudno yn gyfle gwych i ddysgu am hanes y dref ar daith ddychmygus a difyr, dan arweiniad "Mynach y Gogarth".
Mae'r profiad gwych hwn yn cael ei gynnal gan berchennog gwesty lleol yn y dref, Rodney Davies, ac mae'n cynnig noson o antur unigryw gyda llond trol o straeon hanesyddol iasol, a hanesion ysgytwol am yr ardal.
Cynhelir Taith Gerdded Ysbrydion Llandudno bob nos Fercher, nos Wener a nos Sadwrn am 8pm.
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn croesawu'r daith ysbrydion hon, sy'n galluogi pobl leol ac ymwelwyr i archwilio Llandudno a dysgu am ei hanes mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol.
Gan gyfeirio at Daith Gerdded Ysbrydion Llandudno, dywedodd Janet:
"Hoffwn longyfarch Rodney Davies a diolch iddo am greu Taith Gerdded Ysbrydion Llandudno. Mae’n gyfle i bobl ledled Aberconwy ac ymwelwyr ddysgu mwy am hanes Llandudno, mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol.
"Rwy'n dymuno'r gorau i Rodney gyda'r daith ac edrychaf ymlaen at ymuno ag un o’i deithiau cyn hir.
"Am noson ddychrynllyd o hwyliog, rwy'n argymell yn gryf eich bod yn ystyried cadw’ch lle ymlaen llaw ar gyfer y daith hon ".
DIWEDD
Llun: Taflen ar gyfer Taith Gerdded Ysbrydion Llandudno