The annual Llandudno in Bloom awards ceremony, hosted by Cllr Antony Bertola, Mayor of Llandudno, took place at Llandudno Town Hall on Tuesday 23 September 2025.
Janet Finch-Saunders MS/AS was pleased to sponsor a cup for the My Garden Class 1 Residential Front Garden category, the winner of which is Alan Smith & Suzanne Keegin, Plas Coed, Pendre Road, Penrhynside.
In addition, the Member’s office had the pleasure of presenting the award in memory of her late mother: The Joan Finch Cup, Mayor of Llandudno 1993-94 for the Businesses in Bloom Class 6 – Public Houses. The winner was the Kings Head Pub & Restaurant.
Commenting after the award ceremony, Janet said:
“I wish to congratulate the Mayor and all the team at Llandudno Town Council for arranging such a special ceremony to celebrate the truly exceptional effort so many residents and businesses make so to enhance the beauty of our town.
“Llandudno is a wonderland thanks not only to the breathtaking landscape and beautiful architecture, but the phenomenal floral displays.
“From Glanwydden to the Great Orme, the town is full of flowers which so many of us enjoy and serve as a sanctuary for nature.
“Congratulations to all who entered. It was truly an honour to, once again, be one of the sponsors”.
ENDS
Photo:
Llandudno in Bloom award ceremony: Gail Evans, Mostyn Guest House, which was the overall winner
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo flynyddol Llandudno yn ei Blodau, a gynhaliwyd gan y Cynghorydd Antony Bertola, Maer Llandudno, yn Neuadd y Dref, Llandudno, ddydd Mawrth 23 Medi 2025.
Roedd Janet Finch-Saunders AS yn falch o noddi cwpan ar gyfer categori 'Gardd Ffrynt Breswyl Dosbarth 1 My Garden', a enillwyd gan Alan Smith a Suzanne Keegin, Plas Coed, Pendre Road, Penrhynside.
Cafodd swyddfa'r Aelod y pleser o gyflwyno'r wobr er cof am ei diweddar fam hefyd: Cwpan Joan Finch, Maer Llandudno 1993-94 ar gyfer ‘Busnesau yn eu Blodau Dosbarth 6 – Tafarndai’. Yr enillydd oedd tafarn a bwyty Kings Head.
Wrth sôn am y seremoni wobrwyo, dywedodd Janet:
“Hoffwn longyfarch y Maer a'r holl dîm yng Nghyngor Tref Llandudno am drefnu seremoni mor arbennig i ddathlu'r ymdrech arbennig mae cymaint o drigolion a busnesau yn ei wneud i wella harddwch ein tref.
“Mae Llandudno yn lle braf nid yn unig oherwydd prydferthwch naturiol a phensaernïaeth yr ardal, ond hefyd yr arddangosfeydd blodau anhygoel.
“O Lanwydden i Ben y Gogarth, mae'r dref yn llawn blodau sy'n rhoi gwên i gymaint ohonom ac yn cynnig noddfa i fyd natur.
“Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gystadlu. Roedd hi'n fraint a hanner bod yn un o'r noddwyr unwaith eto”.
DIWEDD
Llun:
Seremoni wobrwyo Llandudno yn ei Blodau