
During a debate in the Welsh Parliament yesterday (9 July), both Welsh Conservative and Welsh Labour members of the Senedd spoke in support of the proposal to prohibit bottom trawling in Welsh Marine Protected Areas (MPAs).
Bottom trawling is a collective term for a group of fishing techniques which drag heavy nets across the seafloor. The different types of bottom trawling can be defined by their modifications as some have metal teeth that penetrate the seabed or metal beams which keep the net open. The types of bottom trawling gear include, but are not limited to, beam trawls, otter trawls, pair trawls, fly seines and dredges.
Up to 80% of the fish indiscriminately caught in the nets of trawlers are discarded or destroyed.
There are 139 Welsh MPAs but bottom trawling has only been prohibited by the Welsh Government in 1: Skomer Marine Conservation Zone.
Commenting after brining the debate before the Senedd, Janet Finch-Saunders MS, Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment said:
“As Sir David Attenborough stated, with over three quarters of a trawler’s catch being thrown away, it’s hard to imagine a more wasteful way to catch fish.
“The Welsh fishery is predominantly an inshore fishery. The highest intensities of bottom trawling in Wales are occurring in offshore sites by vessels from other nations. Fishing data shows that there are Irish, some Cornish and EU boats all trawling in both near and offshore areas of Wales, creating damage.
“Where prohibitions exists the results are positive. For example, in Lyme Bay in southwest England the ban on bottom trawling has led to commercially caught fish species inside the MPA increasing in abundance by 370%, and the richness of the species mix increasing by 430%. So both the environment and fishers could be better off.
“As I have repeatedly stated in the Senedd, marine habitats such as subtidal mud can capture and store large amounts of carbon. The prohibition would unquestionably benefit carbon capture.
“Whilst it is very disappointing that the Welsh Government is not prepared to take immediate action to stop bottom trawling in any extra MPA, thankfully there are a few of us in the siambr, cross-party, who like Sir Attenborough, make a big splash and bring marine policy to the fore time and again. We are like waves. We will not stop.”
ENDS
Yn ystod dadl yn y Senedd ddoe (9 Gorffennaf), siaradodd aelodau’r Ceidwadwyr Cymreig a Llafur Cymru o'r Senedd o blaid y cynnig i wahardd treillrwydo môr-waelodol yn Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.
Mae treillrwydo môr-waelodol yn derm cyfunol ar gyfer grŵp o dechnegau pysgota sy'n llusgo rhwydi trwm ar draws gwely'r môr. Gellir diffinio'r gwahanol fathau o dreillrwydo môr-waelodol gan eu haddasiadau gan fod gan rai ddannedd metel sy'n treiddio i wely'r môr ac eraill drawstiau metel sy'n cadw'r rhwyd ar agor. Mae'r mathau o offer treillrwydo môr-waelodol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig , dreillrwydi trawst, treillrwydi estyll, treillrwydi pâr, rhwydi sân a llusgrwydi.
Mae hyd at 80% o'r pysgod sy'n cael eu dal ar hap mewn rhwydi llongau treillio yn cael eu taflu neu eu dinistrio.
Mae 139 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru ond dim ond un y mae Llywodraeth Cymru wedi gwahardd treillrwydo môr-waelodol ynddi, sef Parth Cadwraeth Morol Sgomer.
Wrth roi ei sylwadau ar ôl cyflwyno'r ddadl gerbron y Senedd, dywedodd Janet Finch-Saunders AS, Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd:
"Fel y dywedodd Syr David Attenborough, gyda dros dri chwarter o ddalfeydd llongau treillio yn cael ei daflu, mae'n anodd dychmygu ffordd fwy gwastraffus o ddal pysgod.
"Pysgodfa arfordirol yw pysgodfa Cymru yn bennaf. Mae'r dwysedd uchaf o dreillrwydo môr-waelodol yng Nghymru yn digwydd mewn safleoedd ar y môr gan longau o wledydd eraill. Mae data pysgota yn dangos bod cychod Gwyddelig, rhai o Gernyw a'r UE i gyd yn treillio mewn ardaloedd cyfagos ac ar y môr yng Nghymru, gan greu difrod.
"Lle mae gwaharddiadau yn bodoli, mae'r canlyniadau'n gadarnhaol. Er enghraifft, ym Mae Lyme yn ne-orllewin Lloegr mae'r gwaharddiad ar dreillrwydo môr-waelodol wedi arwain at rywogaethau pysgod sy’n cael eu dal yn fasnachol y tu mewn i'r Ardal Forol Warchodedig yn cynyddu 370%, a chyfoeth y cymysgedd o rywogaethau yn cynyddu 430%. Felly gallai'r amgylchedd a'r pysgotwyr fod ar eu hennill.
"Fel yr ydw i wedi dweud droeon yn y Senedd, gall cynefinoedd morol fel mwd islanwol ddal a storio llawer iawn o garbon. Byddai'r gwaharddiad yn ddi-os o fudd i ddal carbon.
"Er ei bod yn siom nad yw Llywodraeth Cymru yn barod i gymryd camau ar unwaith i atal treillrwydo môr-waelodol mewn unrhyw Ardal Forol Warchodedig ychwanegol, diolch byth, mae yna ambell un ohonom ni yn y siambr, ar draws y pleidiau, sydd, fel Syr David Attenborough, yn cynhyrfu’r dyfroedd yn llythrennol ac yn codi’r polisi morol dro ar ôl tro. Rydyn ni fel tonnau. Wnawn ni ddim roi’r gorau iddi."
DIWEDD