Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Have YOUR Say on the Conwy Valley Railway Line! Dweud EICH Dweud am Rheilffordd Dyffryn Conwy?
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

COP29 to Begin in Azerbaijan / COP29 yn dechrau yn Azerbaijan

  • Tweet
Monday, 11 November, 2024
  • Senedd News
Janet

Janet Finch-Saunders MS, Shadow Minister for Climate Change, is delighted to see that COP29 will be starting today in Baku, Azerbaijan.

This year is the 29th annual United Nations Climate Change Conference. The event lasts from November 11th to November 22nd and will feature politicians, business people, scientists and campaigners.

The two-week event will involve speeches, workshops, film screenings and crucially, policy discussions between world leaders.

It has also coincided with a visit by Janet to the now closed Ffos y Fran opencast coal mine in Merthyr Tydfil with the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee. 

Commenting on this Janet said:

“I am pleased to see that once again leaders, scientists and campaigners from around the world will gather to tackle the growing climate issues we face.

“This year's conference is happening during what is projected to be the hottest year on record, with extreme weather events like flooding and hurricanes highlighting the pressing need to address climate change.

“We need to approach this with an open mind and work together as an international community. 

“Wales is currently importing mediocre coal from abroad which not only has a huge carbon footprint but also burns at a much lower temperature than our Welsh coal, causing it to burn poorly.

“I am of the mind that the Ffos y Fran opencast coal mine should have remained open for this very reason; to provide cleaner coal which has a minimal carbon footprint. 

“Wales can claim that it has reduced its carbon emissions by ending the mining of coal , but the reality is that we are offsetting it by mining the coal elsewhere and then having a larger carbon footprint by importing it.

“This year, COP29 will focus on finance, with discussions centring on financial commitments from wealthy countries to support poorer nations in managing the impacts of climate change. 

"One critical issue to consider, however, is that if Wales still mined its own cleaner coal, we would not need to spend as much compensating other countries for extracting lower-quality coal."

ENDS

 

Mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, yn falch o weld y bydd COP29 yn dechrau heddiw yn Baku, Azerbaijan.

Eleni yw 29ain Cynhadledd Newid Hinsawdd flynyddol y Cenhedloedd Unedig. Mae'r digwyddiad yn para rhwng 11 Tachwedd a 22 Tachwedd a bydd yn cynnwys gwleidyddion, pobl fusnes, gwyddonwyr ac ymgyrchwyr.

Bydd y digwyddiad pythefnos o hyd yn cynnwys areithiau a gweithdai, dangosiadau ffilm ac, yn hollbwysig, trafodaethau polisi rhwng arweinwyr y byd.

Mae hefyd yn cyd-daro gydag ymweliad Janet â phwll glo brig Ffos y Frân sydd bellach wedi cau ym Merthyr Tudful, gyda'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. 

Wrth sôn am hyn, dywedodd Janet:

“Rwy'n falch o weld y bydd arweinwyr, gwyddonwyr ac ymgyrchwyr o bob cwr o'r byd unwaith eto yn ymgynnull i fynd i'r afael â'r materion hinsawdd cynyddol sy'n ein hwynebu.

“Mae'r gynhadledd eleni yn digwydd yn ystod y flwyddyn a gafodd ei darogan fel yr un boethaf erioed, gyda digwyddiadau tywydd eithafol fel llifogydd a chorwyntoedd yn tynnu sylw at yr angen dybryd i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

“Mae angen i ni fynd at hyn gyda meddwl agored a chydweithio fel cymuned ryngwladol. 

“Ar hyn o bryd, mae Cymru yn mewnforio glo digon sâl o dramor sydd nid yn unig ag ôl troed carbon enfawr ond sydd hefyd yn llosgi ar dymheredd llawer is na'n glo ni yma yng Nghymru, gan achosi iddo losgi'n wael.

“Dwi o’r farn y dylai pwll glo brig Ffos y Frân fod wedi aros ar agor am yr union reswm yma; er mwyn darparu glo glanach sydd â’r ôl troed carbon lleiaf posibl. 

“Gall Cymru honni ei bod wedi lleihau ei hallyriadau carbon drwy ddod â chloddio am lo i ben , ond y gwir amdani yw ein bod ni'n gwrthbwyso hynny drwy gloddio am y glo mewn mannau eraill sydd wedyn yn gadael ôl troed carbon mwy yn sgil ei fewnforio.

“Eleni, bydd COP29 yn canolbwyntio ar gyllid, gyda thrafodaethau'n canolbwyntio ar ymrwymiadau ariannol gwledydd cyfoethog i gefnogi cenhedloedd tlotach i reoli effeithiau newid hinsawdd. 

"Un mater hollbwysig i'w ystyried, fodd bynnag, yw hyn: pe bai Cymru'n dal i gloddio am ei glo glanach ei hun, ni fyddai angen i ni wario cymaint o iawndal i wledydd eraill am dynnu glo o ansawdd salach."

DIWEDD

 

You may also be interested in

Janet

Royal Cambrian Academy of Arts Forming a Way Forward to Reopening

Friday, 12 September, 2025
On Monday 11th and Friday 15th August, the then Royal Cambrian Academy Committee served official notice to RCA members that the Royal Cambrian Academy of Art, founded in 1881–82, would close permanently on Sunday 24th August 2025. Since then, there have been positive developments.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree