Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Have YOUR Say on the Conwy Valley Railway Line! Dweud EICH Dweud am Rheilffordd Dyffryn Conwy?
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Charities in Wales Being Hit Hard by National Insurance Changes / Elusennau yng Nghymru yn cael eu taro'n galed gan newidiadau yswiriant gwladol

  • Tweet
Thursday, 20 March, 2025
  • Senedd News
Janet

In an effort to raise £20bn the Chancellor, Rachel Reeves, is increasing the rate of National Insurance from 13.8% to 15%, lowering the threshold to £5,000, and as such expecting businesses and the third sector to pay an extra £900 in tax annually for an employee on the average salary.

In the Welsh Parliament yesterday, the Welsh Conservatives brought forward a debate calling on the Welsh Labour Government to make urgent representations to the UK Government to ensure Welsh charities, not-for-profits and voluntary organisations delivering public services will be included in the UK Government’s definition of ONS-defined public sector employees and will be as a result reimbursed for the rise in employer national insurance contributions.

Speaking after the Welsh Government voted against the Welsh Conservative motion, Janet said:

“Labour’s jobs tax will hit vital services, like those provided by hospices and care homes, because Labour Ministers refuse to exempt them.

“Tenovus is having to look for £250,000.

“Marie Curie is having to look for £258,000.

“Adferiad is having to look for £600,000.

“At a time when many charities are facing significant financial pressure, the cost of the Labour budget to these organisations, which the most vulnerable people rely on, is truly devastating. The changes to National Insurance should be scrapped”. 
 


ENDS 
 

Mewn ymdrech i godi £20bn mae'r Canghellor, Rachel Reeves, yn cynyddu cyfradd Yswiriant Gwladol o 13.8% i 15%, ac yn gostwng y trothwy i £5,000, gyda disgwyl i fusnesau a'r trydydd sector dalu £900 ychwanegol mewn treth bob blwyddyn ar gyfer gweithiwr ar y cyflog cyfartalog.

Yn Senedd Cymru ddoe, cyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl yn galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i wneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd elusennau, sefydliadau nid-er-elw a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn niffiniad Llywodraeth y DU o weithwyr sector cyhoeddus a ddiffinnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac y byddant o ganlyniad yn cael eu had-dalu am y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.

Wrth siarad ar ôl i Lywodraeth Cymru bleidleisio yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Janet:

“Bydd treth swyddi Llafur yn taro gwasanaethau hanfodol, fel y rhai a ddarperir gan hosbisau a chartrefi gofal, oherwydd bod Gweinidogion Llafur yn gwrthod eu heithrio.

“Mae Tenovus yn gorfod dod o hyd i £250,000.

“Mae Marie Curie yn gorfod dod o hyd i £258,000.

“Mae Adferiad yn gorfod dod o hyd i £600,000.

“Ar adeg pan mae llawer o elusennau'n wynebu pwysau ariannol sylweddol, mae cost cyllideb Llafur i'r sefydliadau hyn, sefydliadau y mae'r bobl fwyaf agored i niwed yn dibynnu arnyn nhw, yn wirioneddol drychinebus. Dylid sgrapio'r newidiadau i Yswiriant Gwladol”. 
 


DIWEDD 
 

You may also be interested in

Janet

Royal Cambrian Academy of Arts Forming a Way Forward to Reopening

Friday, 12 September, 2025
On Monday 11th and Friday 15th August, the then Royal Cambrian Academy Committee served official notice to RCA members that the Royal Cambrian Academy of Art, founded in 1881–82, would close permanently on Sunday 24th August 2025. Since then, there have been positive developments.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree