Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Calls for more funding to local events and festivals in Wales / Galw am fwy o arian i ddigwyddiadau a gwyliau lleol Cymru

  • Tweet
Thursday, 14 July, 2022
  • Senedd News
Campsite

Speaking during the Welsh Conservative debate today, Janet expressed that she would like to see a greater level of funding allocated to small to medium sized organised events across Wales. 

 

Speaking during the debate, Janet said:

“Summer's here and so are some of the biggest outdoor events in Wales. From the Royal Welsh to the National Eisteddfod, Wales is a hot spot for summertime events and festivals which bring together friends and families.

 

“As the nation begins to move forward from the Pandemic, we need to focus on getting visitors back and giving them the confidence that Wales is open for business and that the Welsh Government is committed to supporting the needs of local communities during the peak visitor period.”

 

Commenting further, Janet said.

“On the 25th of June I attended the Llanrwst show. Established some 140 years ago, the rural agricultural show promotes locally produced food and crafts and marks an important date in the agricultural calendar. Attracting competitors and visitors from all over North Wales, its events such as this that inject a vibrant atmosphere into our towns and cities.

 

Unlike big events such as the Royal Welsh, funding options are far more limited to smaller rural organised events. This is why, in March last year, I called for the establishment of a Rural Shows Development Fund which would:

  • Have grants made available to all shows to help with marketing, safety measures, and even greater diversification;
  • Include a set of operational guidance for agricultural shows so that they can come back with confidence;
  • See Visit Wales publish an ‘Agricultural Show Trail for Wales – encouraging people to attend these events where so much can be learnt about farming, food, and crafts.”

Janet will continue to champion locally organised events and seek further funding from the Welsh Government.

 

 

Wrth siarad yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, dywedodd Janet yr hoffai weld mwy o gyllid yn cael ei ddyrannu i ddigwyddiadau bach i ganolig eu maint ledled y wlad.

 

Wrth siarad yn ystod y ddadl, dywedodd Janet:

 

“Mae'r haf wedi cyrraedd, felly hefyd rai o ddigwyddiadau awyr agored mwya'r genedl. O'r Sioe Fawr i'r Eisteddfod Genedlaethol, mae Cymru'n fwrlwm o ddigwyddiadau a gwyliau yn ystod yr haf sy'n dod â ffrindiau a theuluoedd at ei gilydd.

 

“Wrth i'r genedl ddechrau symud ymlaen o'r pandemig, mae angen i ni ganolbwyntio ar groesawu ymwelwyr yn ôl a rhoi'r hyder iddynt fod Cymru ar agor i fusnesau a bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi anghenion cymunedau lleol yn ystod cyfnod prysuraf y diwydiant ymwelwyr."

 

Ychwanegodd Janet.

 

"Fe es i Sioe Llanrwst ar 25 Mehefin. Wedi'i sefydlu tua 140 o flynyddoedd yn ôl, mae'r sioe amaethyddol wledig yn hyrwyddo bwydydd a chrefftau lleol ac yn ddyddiad hollbwysig yn y calendr amaeth. Mae’n denu cystadleuwyr ac ymwelwyr o bob cwr o'r Gogledd, a digwyddiadau fel hyn sy'n bywiogi ein trefi a'n dinasoedd ni.

 

Yn wahanol i ddigwyddiadau mawr fel y Sioe Frenhinol, mae opsiynau ariannu yn llawer mwy cyfyngedig i ddigwyddiadau gwledig llai eu maint. Dyna pam, ym mis Mawrth y llynedd, y galwais am sefydlu Cronfa Datblygu Sioeau Gwledig a fyddai'n:

  • sicrhau bod grantiau ar gael i bob sioe er mwyn helpu gyda gwaith marchnata, mesurau diogelwch, a mwy fyth o arallgyfeirio;
  • cynnwys cyfres o ganllawiau gweithredol ar gyfer sioeau amaethyddol fel y gallant ailgodi ar eu traed yn hyderus;
  • gweld Croeso Cymru yn cyhoeddi 'Llwybr Sioeau Amaethyddol Cymru" – a fyddai’n annog pobl i fynychu'r digwyddiadau hyn lle mae modd dysgu cymaint am ffermio, bwyd a chrefftau.

Bydd Janet yn parhau i hyrwyddo digwyddiadau a drefnir yn lleol ac yn ceisio cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru.

You may also be interested in

Janet

Welcoming Proposal to Ban Single-Use Plastics on Fresh Produce

Thursday, 6 November, 2025
Yesterday, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy and the Welsh Conservative Shadow Minister for Climate Change and the Environment, welcomed Rhys ab Owen MS’s Member’s Legislative Proposal to create a Bill banning the use of single-use plastic on fruits and vegetables.&n

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree