
On Saturday 21st June, Bryn Marl Nursing Home, Llandudno Junction, held their summer fair. A fantastic event, that provided an afternoon of fun for residents, family and friends.
Janet Finch-Saunders, the Member of Welsh Parliament for Aberconwy, was delighted to attend and open the event.
Commenting on the Summer fair, Janet said:
“Firstly, I would like to thank Kevin Jones for inviting me to attend and open the fair.
“It was a fantastic afternoon with so much on offer. From the wonderful music of Beaulah brass band, and Rock in Ron, to the variety of stores and beverages, there was truly something for everyone.
“The fair also provided the nursing home with an opportunity to raise donations from raffle, tombola, and cake stalls, all of which goes to help Bryn Marl to support their residents.
“I would like to also thank all of the staff members at Bryn Marl for all of their incredible hard work and dedication. Congratulations on such a wonderful event, and I am looking forward to next year.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS at the fair
Ddydd Sadwrn 21 Mehefin, cynhaliodd Cartref Nyrsio Bryn Marl, Cyffordd Llandudno, eu ffair haf. Digwyddiad gwych, yn llawn hwyl a sbri i breswylwyr, teulu a ffrindiau.
Roedd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn falch iawn o fynychu ac agor y digwyddiad.
Gan gyfeirio at y ffair haf, dywedodd Janet:
"Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Kevin Jones am fy ngwahodd i fynychu ac agor y ffair.
"Roedd yn brynhawn gwych gyda chymaint i’w gynnig. O gerddoriaeth wych band pres Beaulah, a Rock in Ron, i'r amrywiaeth o siopau a diodydd, roedd rhywbeth at ddant pawb.
"Roedd y ffair hefyd yn gyfle i'r cartref nyrsio godi arian drwy gynnal raffl, tombola, a stondinau cacennau, ac mae pob un ohonyn nhw’n mynd i helpu Bryn Marl i gefnogi eu preswylwyr.
"Hoffwn ddiolch hefyd i holl aelodau staff Bryn Marl am eu gwaith caled a'u hymroddiad anhygoel. Llongyfarchiadau ar ddigwyddiad mor wych, ac rwy'n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS yn y ffair