As the tenth anniversary of the Brexit referendum is marked, Janet Finch-Saunders MS has highlighted what she describes as the many benefits of leaving the European Union, pointing to the UK’s achievements outside of the EU such as the vaccine rollout, support for Ukraine, advances in artificial intelligence, and high standards of animal welfare. Furthermore, pointing out that Brexit has enabled Britain to make decisions in its own interests and seize opportunities outside the EU.
Janet Finch-Saunders has also warned against calls to rejoin the European Union, arguing that doing so would mean paying around £15 billion a year into Brussels, risking the return of free movement and surrendering control over laws and borders. Plaid Cymru have come under criticism for their position of leaving the UK, but wanting to rejoin the EU, which has raised concerns that this would amount to exchanging one union for another rather than achieving genuine independence.
Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Bangor Conwy Môn said:
“Ten years on, Brexit remains the right decision. The UK demonstrated the advantages of being able to act independently, whether through our world-leading vaccine rollout, our steadfast support for Ukraine, our leadership in emerging technologies such as AI, or our high standards of animal welfare.
Going back into the EU would mean handling over billions of pounds every year and giving up control once again. I do not believe that is what people want. The benefits of Brexit are real, and we should be building on them rather than trying to reverse them.
Plaid Cymru talks about independence, but their vision would simply swap the United Kingdom for the European Union. True self-government means making decisions here in Britain, not handing power back to Brussels.
I look forward to discussing the positive case for Brexit further when I appear on Sharp End, ITV this evening.”
Gyda degfed pen-blwydd refferendwm Brexit newydd basio, mae Janet Finch-Saunders AS wedi tynnu sylw at yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel manteision niferus gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan dynnu sylw at gyflawniadau'r DU y tu allan i'r UE, er enghraifft cyflwyno brechlynnau, cefnogi Wcráin, datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial, a safonau uchel o ran lles anifeiliaid. Hefyd, mae Brexit wedi rhoi cyfle i Brydain wneud penderfyniadau er budd ei hun a manteisio ar gyfleoedd y tu allan i'r UE.
Mae Janet Finch-Saunders hefyd wedi rhybuddio rhag galwadau i ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, gan ddadlau y byddai gwneud hynny'n golygu talu tua £15 biliwn y flwyddyn i Frwsel, ac y byddai hynny’n fygythiad o ran ailgyflwyno rhyddid i symud ac ildio rheolaeth dros gyfreithiau a ffiniau. Mae Plaid Cymru wedi cael ei beirniadu am ei safbwynt o ran bod eisiau gadael y DU, ond ailymuno â'r UE, sydd wedi codi pryderon y byddai hyn yn gyfystyr â chyfnewid un undeb am un arall yn hytrach na sicrhau annibyniaeth wirioneddol.
Meddai Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Fangor Conwy Môn:
"Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, Brexit yw'r penderfyniad cywir o hyd. Dangosodd y DU fanteision gallu gweithredu'n annibynnol, boed hynny trwy gyflwyno brechlynnau a dangos y ffordd ymlaen i weddill y byd, ein cefnogaeth gadarn i Wcráin, ein harweinyddiaeth o ran technolegau newydd fel Deallusrwydd Artiffisial, neu ein safonau uchel o ran lles anifeiliaid.
Byddai mynd yn ôl i fod yn rhan o'r UE yn golygu talu biliynau o bunnoedd bob blwyddyn a rhoi'r gorau i reolaeth unwaith eto. Nid wyf yn credu mai dyna beth mae pobl ei eisiau. Mae manteision Brexit yn real, a dylem fod yn adeiladu arnyn nhw yn hytrach na cheisio eu gwrthdroi.
Mae Plaid Cymru yn siarad am annibyniaeth, ond byddai gweledigaeth y blaid yn golygu cyfnewid y Deyrnas Unedig am yr Undeb Ewropeaidd. Mae gwir hunanlywodraeth yn golygu gwneud penderfyniadau yma ym Mhrydain, nid trosglwyddo pŵer yn ôl i Frwsel.
Edrychaf ymlaen at drafod yr elfennau cadarnhaol Brexit ymhellach pan fyddaf yn ymddangos ar Sharp End i drafod y mater."