Janet Finch-Saunders MS has raised concerns over the growing number of large-scales wind energy developments across Wales, with 70 projects in development and nine new projects approved in North Wales during 2025. Particular concern has been expressed over turbines reaching heights of up to 200 metres. Further concerns have been raised that these turbines would have a major visual impact on the local landscape, where many visitors come to Wales to enjoy the beautiful scenery.
Questions have also been raised about the impact of renewable energy projects on food security, farmlands and rural jobs. Concerns have additionally been expressed over the impact of wildlife, including estimates that wind turbines kill between 100,000 and 250,000 birds each year.
Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Bangor Conwy Môn said:
“Wales is blessed with some of the most beautiful landscapes in the world, and they are a major reason why millions of visitors come here each year. While renewable energy has an important role to play, we must ensure that development is proportionate and does not come at the expense of our natural environment, tourism industry or food security and rural communities.
The prospect of 200-metre high turbines dominating our countryside raises legitimate concerns for local communities. We must carefully consider cumulative impact on our landscapes, wildlife and the productive farmland that sustains rural Wales.
The First Minister has previously recognised that large-scale renewable projects can lead to the loss of productive farmland, farming jobs, and valuable economic activity in rural communities. In light of the scale of development now being proposed, I believe there is a strong case form the Welsh Government to declare a moratorium on large windfarm developments, and put in place a plan that prioritises food security in Wales.”
Mae Janet Finch-Saunders AS wedi codi pryderon am y nifer cynyddol o ddatblygiadau ynni gwynt ar raddfa fawr ledled Cymru, gyda 70 o brosiectau yn y cyfnod datblygu a naw prosiect newydd wedi'u cymeradwyo yn y Gogledd yn ystod 2025. Mynegwyd pryder arbennig am dyrbinau sy'n cyrraedd uchder o hyd at 200 metr. Mae pryderon pellach wedi cael eu rhannu y byddai'r tyrbinau hyn yn cael effaith weledol fawr ar y dirwedd leol, lle mae llawer o ymwelwyr yn dod i Gymru i fwynhau'r golygfeydd hardd.
Mae cwestiynau hefyd wedi'u codi am effaith prosiectau ynni adnewyddadwy ar ddiogeledd bwyd, tiroedd fferm a swyddi gwledig. Mae pryderon wedi’u mynegi hefyd am yr effaith ar fywyd gwyllt, gan gynnwys amcangyfrifon bod tyrbinau gwynt yn lladd rhwng 100,000 a 250,000 o adar bob blwyddyn.
Meddai Janet Finch-Saunders, AS Bangor Conwy Môn:
"Mae Cymru wedi’i bendithio â rhai o'r tirweddau harddaf yn y byd, ac maen nhw'n un o'r prif resymau pam mae miliynau o ymwelwyr yn dod yma bob blwyddyn. Er bod gan ynni adnewyddadwy rôl bwysig i'w chwarae, rhaid i ni sicrhau bod datblygiad yn gymesur ac nad yw'n dod ar draul ein hamgylchedd naturiol, y diwydiant twristiaeth neu ddiogeledd bwyd a chymunedau gwledig.
Mae'r posibilrwydd o dyrbinau 200 metr o uchder yn gymylau duon dros ein cefn gwlad yn codi pryderon mawr i gymunedau lleol. Rhaid i ni ystyried yn ofalus yr effaith gronnol ar ein tirweddau, ein bywyd gwyllt a'r tir fferm cynhyrchiol sy'n cynnal Cymru wledig.
Mae'r Prif Weinidog wedi cydnabod o'r blaen y gall prosiectau adnewyddadwy ar raddfa fawr arwain at golli tir fferm cynhyrchiol, swyddi ffermio a gweithgarwch economaidd gwerthfawr mewn cymunedau gwledig. Yng ngoleuni graddfa'r datblygiad sy'n cael ei gynnig nawr, credaf fod achos cryf gan Lywodraeth Cymru i ddatgan moratoriwm ar ddatblygiadau ffermydd gwynt mawr, a rhoi cynllun ar waith sy'n blaenoriaethu diogeledd bwyd yng Nghymru."