https://www.getsafeonline.org/
North Wales Police and Get Safe Online have issued fresh advice urging residents to take extra care when purchasing tickets for concerts and festivals online.
With demands for live events expected to rise over the summer months, officials are warning that criminals are increasingly using social media and unofficial platforms to target unsuspecting buyers.
The campaign highlights the importance of only using official vendors, box offices or regulated marketplaces when purchasing tickets, and avoiding informal sales channels where protections are limited and the risk of fraud is significantly higher.
Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Bangor Conwy Môn said:
“Ticket scams are a growing concern, particularly as we move into the busy summer period of concerts and festivals. Too many people are being caught out by fraudulent sellers online, often losing both money and the chance to attend the event they were looking forward to.
It is welcome to see North Wales Police and partners raising awareness of this issue and providing clear advice to help people protect themselves. A few simple checks can make a real difference in avoiding scams and keeping people safe.
I would encourage anyone purchasing tickets to always use official and trusted sources, and to be extremely cautious when buying through social media or unofficial channels.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Get Safe Online wedi cyhoeddi cyngor newydd yn annog trigolion i gymryd gofal ychwanegol wrth brynu tocynnau ar gyfer cyngherddau a gwyliau ar-lein.
Gyda disgwyl i'r galw am ddigwyddiadau byw godi dros fisoedd yr haf, mae swyddogion yn rhybuddio bod troseddwyr yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau answyddogol fwyfwy i dargedu prynwyr diniwed.
Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio gwerthwyr swyddogol, swyddfeydd tocynnau neu farchnadoedd rheoledig wrth brynu tocynnau yn unig, ac osgoi sianeli gwerthu anffurfiol lle mae’r amddiffyniadau yn gyfyngedig a'r risg o dwyll yn sylweddol uwch.
Meddai Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Fangor Conwy Môn:
"Mae sgamiau tocynnau yn bryder cynyddol, yn enwedig wrth i ni symud i gyfnod prysur yr haf o gyngherddau a gwyliau. Mae gormod o bobl yn cael eu dal allan gan werthwyr twyllodrus ar-lein, ac yn aml yn colli arian a'r cyfle i fynychu'r digwyddiad yr oedden nhw’n edrych ymlaen ato.
Da yw gweld Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid yn codi ymwybyddiaeth o'r mater hwn ac yn darparu cyngor clir i helpu pobl i amddiffyn eu hunain. Gall ychydig o wiriadau syml wneud y byd o wahaniaeth wrth osgoi sgamiau a chadw pobl yn ddiogel.
Byddwn yn annog unrhyw un sy'n prynu tocynnau i ddefnyddio ffynonellau swyddogol a dibynadwy bob amser, ac i fod yn hynod ofalus wrth brynu trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu sianeli answyddogol."