For several months, Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Bangor Conwy Môn, has raised serious concerns about corridor care taking place and has continuously called for it to urgently come to an end.
Janet commented:
“For too long, I have heard from constituents and medical professionals about the extent of corridor care taking place in Wales. We have heard of people being treated in corridors, uncomfortable chairs and, in some instances, cupboards.
“These extensive waits, and treatment like this taking place, not only cause our residents, in some instances, to refuse attending hospital, even when it is vital, due to their past experiences with corridor care, but they also have a negative impact on our medical practitioners, who are negatively affected by having to treat people without them having a proper hospital bed or treatment room.
“In addition to the extensive waiting times, and instances of people developing sores from waiting on chairs, we are unfortunately seeing instances of patients passing away while waiting for treatment. In March, sadly, a constituent of mine passed away in Ysbyty Glan Clwyd’s A&E department while waiting for treatment.
“However, an FOI I submitted showed that this was not a one-off occurrence. It highlighted that 1,027 people died while waiting for treatment in A&E in the Betsi Cadwaladr University Health Board area in the 24 months leading up to 30 September 2025.
“Next week, when the Senedd is back from recess, I have been allocated a question to the First Minister, which I will use to raise the serious nature of corridor care and call for corridor care to come to an end once and for all under this Government. I will keep everybody update.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Ers sawl mis, mae Janet Finch-Saunders, AS Bangor Conwy Môn, wedi codi pryderon difrifol am ofal mewn coridor sy'n digwydd mewn ysbytai ac wedi galw'n barhaus am ddod â’r arfer hwn i ben ar frys.
Dywedodd Janet:
"Am rhy hir, rydw i wedi clywed gan etholwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol am faint o ofal mewn coridor sy'n digwydd yng Nghymru. Rydyn ni wedi clywed am bobl yn cael eu trin mewn coridorau, mewn cadeiriau anghyfforddus ac, mewn rhai achosion, mewn cypyrddau.
"Mae'r amseroedd aros hirfaith hyn, a thriniaeth fel hyn, nid yn unig yn achosi i'n preswylwyr wrthod mynd i’r ysbyty mewn rhai achosion, hyd yn oed pan mae hynny'n hanfodol, oherwydd eu profiadau blaenorol o gael gofal mewn coridor, ond mae hefyd yn cael effaith negyddol ar ein hymarferwyr meddygol, sy'n cael eu heffeithio'n negyddol drwy orfod trin pobl nad oes ganddyn nhw wely mewn ysbyty neu y tu allan i ystafell driniaeth briodol.
"Yn ogystal â'r amseroedd aros hirfaith, ac achosion o bobl yn datblygu briwiau yn sgil gorfod aros ar gadeiriau, rydyn ni’n gweld achosion o gleifion yn marw wrth aros am driniaeth. Ym mis Mawrth, yn anffodus, bu farw un o'm hetholwyr yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wrth aros am driniaeth.
"Fodd bynnag, dangosodd cais Rhyddid Gwybodaeth a gyflwynais nad digwyddiad untro yn unig oedd hwn. Tynnodd sylw at y ffaith bod 1,027 o bobl wedi marw wrth aros am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y 24 mis yn arwain at 30 Medi 2025.
"Yr wythnos nesaf, pan fydd y Senedd yn dychwelyd o’i thoriad, byddaf yn gofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog, ac yn defnyddio’r cyfle i godi natur ddifrifol gofal mewn coridor a galw am ddod â gofal mewn coridor i ben unwaith ac am byth o dan y Llywodraeth hon. Byddaf yn diweddaru pawb ar hyn."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS