Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Fresh Calls to Bring an End to Corridor Care in Welsh NHS A&E’s / Galwadau newydd i ddod â gofal mewn coridor i ben yn adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru

  • Tweet
Wednesday, 7 January, 2026
  • Local News
J

There has been a renewed call from The BEDS – End Corridor Care in A&E campaign to put an end to dangerous corridor care in hospitals for all communities in Wales. This has been especially emphasised with the Senedd elections coming up this May as a priority for many voters ahead of the election.

 

In December, last year there was a similar call to action from members of the BMA who came together outside of the Senedd, calling for an end to corridor care due to the danger, not only to patients but also to make politicians aware of the strain it is putting on doctors and nurses who work in the Welsh NHS.

 

The beds campaign have made it clear on the areas they want change in from the Welsh Government and all other parties.

 

1: A real increase in community beds and an end to further bed cuts.

2: Senior medics leading fast, effective triage at A&E.

3: Safer, fairer working conditions for the staff who hold NHS Wales together – written into every manifesto, not just spoken in campaign season.

 

Janet Finch-Saunders, Welsh Conservative Senedd Member for Aberconwy and Lead Senedd Candidate for Bangor Conwy Môn, said:

“Last year, I consistently raised concerns and called for an end to the dangerous practise of corridor care taking place in hospitals across Wales. It is completely unacceptable that patients are still being treated in A&E corridors.

 

This year, I will continue to press for change and to amplify the calls being made by the BEDS campaign and the British Medical Association, whom I stood alongside outside the Senedd last year when they called for an end to corridor care. These are not political voices – they are frontline health professionals and patients who see the consequences of this situation every day.

 

The Welsh Government, and all parties, must listen to these warnings from health professionals and residents across Wales and take urgent action to end corridor care and restore safe, dignified care within our NHS.”

 Mae ymgyrch BEDS – End Corridor Care in A&E wedi galw o’r newydd am roi terfyn ar yr arfer peryglus o ofal mewn coridor mewn ysbytai ym mhob cymuned yng Nghymru. Gydag etholiadau'r Senedd ar y gorwel ym mis Mai, mae’r mater hwn wedi’i nodi fel blaenoriaeth i lawer o bleidleiswyr cyn yr etholiad.

 

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cafwyd galwad tebyg i weithredu gan aelodau o Gymdeithas Feddygol Prydain wnaeth grynhoi’r tu allan i'r Senedd i alw am roi terfyn ar yr arfer peryglus o ofal mewn coridor nid yn unig er budd cleifion ond hefyd i wneud gwleidyddion yn ymwybodol o'r straen y mae'n ei roi ar feddygon a nyrsys sy'n gweithio yn GIG Cymru.

 

Mae ymgyrch BEDS wedi nodi’n glir y meysydd maen nhw am i Lywodraeth Cymru a'r holl bleidiau eraill eu newid.

 

1: Cynnydd gwirioneddol yn nifer y gwelyau cymunedol a therfyn ar doriadau pellach yn nifer y gwelyau.

2: Uwch feddygon yn arwain proses frysbennu gyflym, effeithiol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

3: Amodau gwaith mwy diogel a theg i'r staff sy'n cynnal GIG Cymru – wedi'u hysgrifennu ym mhob maniffesto, nid geiriau gwag yn ystod tymor yr ymgyrchu.

 

Meddai Janet Finch-Saunders, AS y Ceidwadwyr Cymreig dros Aberconwy a Phrif Ymgeisydd y Senedd dros Fangor Conwy Môn:

"Y llynedd, fe wnes i godi pryderon yn gyson a galw am roi terfyn ar yr arfer peryglus o ofal mewn coridor sy'n digwydd mewn ysbytai ledled Cymru. Mae'n gwbl annerbyniol bod cleifion yn dal i gael eu trin mewn coridorau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

 

Eleni, byddaf yn parhau i bwyso am newid ac yn rhoi sylw i’r galwadau sy'n cael eu gwneud gan ymgyrch BEDS a Chymdeithas Feddygol Prydain, y gwnes i sefyll ochr yn ochr â nhw y tu allan i'r Senedd y llynedd wrth iddyn nhw alw am roi terfyn ar ofal mewn coridor. Nid lleisiau gwleidyddol yw'r rhain – maen nhw'n weithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen a chleifion sy'n gweld canlyniadau'r sefyllfa hon bob dydd.

 

Rhaid i Lywodraeth Cymru, a phob plaid, wrando ar y rhybuddion hyn gan weithwyr iechyd proffesiynol a thrigolion ledled Cymru a chymryd camau brys i roi terfyn ar ofal mewn coridor ac adfer gofal diogel ac urddasol yn ein GIG."

You may also be interested in

J

Applications Open for £1.5m Pride in Place Fund to Improve Communities Across Conwy

Friday, 6 March, 2026
Applications are now open for a £1.5 million Pride in Place Impact Fund aimed at improving community spaces, public areas and town centres across Conwy. The funding has been provided by the UK Government and will be administered locally by Conwy County Borough Council, with projects expected to

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree