
Speaking in the Welsh Conservative motion to scrap and amend the Sustainable Farming Scheme, yesterday, Janet Finch-Saunders MS has spoken of her surprise that all Plaid/Welsh Labour members voted against.
Speaking in the debate, Janet said:
“Our farmers have been miserably failed by the other parties for too long in Wales. The introduction of NVZ’s, their stubborn approach to TB and confusion over Blue Tongue has demoralised farmers the length and breadth of Wales.
“Coupled with the recent farming tax introduced by the UK Labour Government on our farming families, it is little wonder that Farmers have reared up against these attacks by staging protests across the UK.
“Plaid Cymru and Welsh Labour should be ashamed of their actions and should instead be supporting our food champions who work in some of the most appalling weather conditions.
“Interestingly too that during our debate, the Liberal Democrat Member and the Reform Member failed to attend such an important debate.
“Welsh Conservatives will continue to Fix Wales and we will scrap the current SFS scheme if in government after May next year! Instead providing an extra £100 million for our farmers whilst introducing a better scheme that will HELP not Hinder our farmers!
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mewn dadl ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig i ddileu a diwygio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddoe, dywedodd Janet Finch-Saunders AS ei bod wedi synnu bod holl aelodau Plaid/Llafur Cymru wedi pleidleisio yn ei erbyn.
Yn y ddadl, dywedodd Janet:
"Mae’r pleidiau eraill wedi siomi ein ffermwyr am rhy hir yng Nghymru. Mae cyflwyno Parthau Perygl Nitradau, eu hagwedd ystyfnig at TB a'u dryswch ynghylch y Tafod Glas wedi digalonni ffermwyr ar hyd a lled Cymru.
"Ynghyd â'r dreth ffermio ddiweddar a gyflwynodd Llywodraeth Lafur y DU ar ein teuluoedd ffermio, nid yw'n syndod bod ffermwyr wedi gwrthwynebu’r ymosodiadau hyn yn chwyrn trwy gynnal protestiadau ledled y DU.
"Dylai Plaid Cymru a Llafur Cymru fod â chywilydd ac fe ddylen nhw fod yn cefnogi ein hyrwyddwyr bwyd sy'n gweithio o dan yr amgylchiadau tywydd mwyaf ofnadwy.
"Yn ddiddorol hefyd, methodd yr Aelod Democratiaid Rhyddfrydol a'r Aelod Reform â mynychu dadl mor bwysig.
"Bydd y Ceidwadwyr Cymru yn parhau i drwsio Cymru a byddwn yn dileu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy presennol os byddwn yn y llywodraeth ar ôl mis Mai'r flwyddyn nesaf! Yn hytrach, byddwn yn darparu £100 miliwn ychwanegol i'n ffermwyr ac yn cyflwyno cynllun gwell a fydd yn HELPU ein ffermwyr, yn hytrach na’u rhwystro!
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS