Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Welsh Government makes No Progress on HS2 Money for Wales Over the Summer / Llywodraeth Cymru yn gwneud dim cynnydd ar arian HS2 i Gymru dros yr haf

  • Tweet
Wednesday, 10 September, 2025
  • Senedd News
Rail

Writing to Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, Eluned Morgan MS, First Minister, has highlighted that there has not been any progress on HS2 funding for Wales since the UK Spending Review, June 2025.

Mrs Finch-Saunders wrote to the First Minister asking:

“What progress has the Welsh Government made this summer on receiving a Barnett consequential for the UK Government's spend on HS2 in England?”

The First Minister has replied:

“It remains our position that the Welsh Government did not receive a fair share of the money spent on HS2 and we continue to work with the UK Government to deliver a package of measures to address this, now and in the future.

“After years of calling for fair rail funding for Wales, we welcome the step forward in funding resulting from the UK Spending Review. The £445m extra rail funding announced by the UK Government is the start of the process to address the historical underfunding of rail in Wales that has been recognised by the UK Government…”

Commenting on the response from the Frist Minister, Janet said:

“Welsh Labour ardently campaigned for a full consequential of £4 billion to be given to Wales whilst in opposition. However, over a year in to Government all they have secured is £445 for the next ten years.

“That £445m works out at just over £40million a year which is peanuts in terms of rail spending and around a third of the £1.4billion spent by the last UK Conservative Government.

“With the First Minister’s continued failure over the Summer to get any commitment for Wales’ fair share of funding, it is apparent that the two Labour Governments are not working together to benefit Wales. This failure and injustice has to end”.

ENDS

Photo:

Janet Finch-Saunders MS

Written Question by Janet Finch-Saunders MS/AS:

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): What progress has the Welsh Government made this summer on receiving a Barnett consequential for the UK Government's spend on HS2 in England? (WQ97154)

Response by Eluned Morgan MS/AS:

Eluned Morgan: It remains our position that the Welsh Government did not receive a fair share of the money spent on HS2 and we continue to work with the UK Government to deliver a package of measures to address this, now and in the future.

After years of calling for fair rail funding for Wales, we welcome the step forward in funding resulting from the UK Spending Review. The £445m extra rail funding announced by the UK Government is the start of the process to address the historical underfunding of rail in Wales that has been recognised by the UK Government. The UK Government has now endorsed a pipeline of rail enhancement priorities identified by the Wales Rail Board. The agreed priorities for rail enhancement are the delivery of the recommendations of the North Wales and South East Wales Transport Commissions. These include new stations and capacity improvements to support more new services. Building on our own rail investment, this will improve access to jobs and education. This represents a huge step forward and shows what can be achieved when we work together.

Over the Spending Review period, the Welsh Government will receive an additional £5bn in resource and capital funding. This funding builds on £1.6bn provided at the Autumn Budget, meaning we can better respond to Welsh priorities and deliver improvements across public services

 

Wrth ysgrifennu at Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, mae Eluned Morgan AS, y Prif Weinidog, wedi dweud nad oes unrhyw gynnydd wedi bod ar arian HS2 i Gymru ers Adolygiad o Wariant y DU ym mis Mehefin 2025.

Ysgrifennodd Mrs Finch-Saunders at y Prif Weinidog yn gofyn:

"Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yr haf hwn o ran derbyn cyllid canlyniadol Barnett ar gyfer gwariant Llywodraeth y DU ar HS2 yn Lloegr?"

Atebodd y Prif Weinidog:

"Rydym yn parhau i gredu na dderbyniodd Llywodraeth Cymru gyfran deg o'r arian a wariwyd ar HS2 ac yn dal i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno pecyn o fesurau i fynd i'r afael â hyn, nawr ac yn y dyfodol.

"Ar ôl blynyddoedd o alw am gyllid rheilffyrdd teg i Gymru, rydym yn croesawu'r cam ymlaen o ran cyllid sy'n deillio o Adolygiad o Wariant y DU. Y cyllid ychwanegol o £445m ar gyfer y rheilffyrdd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yw cam cyntaf y broses i fynd i'r afael â'r tanariannu hanesyddol ar reilffyrdd yng Nghymru sydd wedi'i gydnabod gan Lywodraeth y DU..."

Wrth sôn am ymateb y Prif Weinidog, dywedodd Janet:

"Ymgyrchodd Llafur Cymru yn frwd dros roi cyllid canlyniadol llawn o £4 biliwn i Gymru pan oeddynt yn yr wrthblaid. Fodd bynnag, ar ôl dros flwyddyn o fod mewn Llywodraeth y cyfan maen nhw wedi'i sicrhau yw £445m ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

"Mae'r £445m hwnnw'n golygu ychydig dros £40miliwn y flwyddyn sy'n bitw o ran gwariant ar reilffyrdd a thua thraean o'r £1.4 biliwn a wariwyd gan Lywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU.

"Gyda methiant parhaus y Prif Weinidog dros yr Haf i gael unrhyw ymrwymiad ar gyfer cyfran deg o gyllid i Gymru, mae'n amlwg nad yw'r ddwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd er budd Cymru. Mae'n rhaid i'r methiant a'r anghyfiawnder hwn ddod i ben".

DIWEDD

Llun:

Janet Finch-Saunders AS

Cwestiwn ysgrifenedig gan Janet Finch-Saunders AS:

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yr haf hwn o ran derbyn cyllid canlyniadol Barnett ar gyfer gwariant Llywodraeth y DU ar HS2 yn Lloegr? (WQ97154)

Ymateb gan Eluned Morgan AS:

Eluned Morgan: Rydym yn parhau i gredu na dderbyniodd Llywodraeth Cymru gyfran deg o'r arian a wariwyd ar HS2 ac yn dal i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno pecyn o fesurau i fynd i'r afael â hyn, nawr ac yn y dyfodol.

Ar ôl blynyddoedd o alw am gyllid rheilffyrdd teg i Gymru, rydym yn croesawu'r cam ymlaen o ran cyllid sy'n deillio o Adolygiad o Wariant y DU. Y cyllid rheilffyrdd ychwanegol o £445m a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yw cam cyntaf y broses i fynd i'r afael â'r tanariannu hanesyddol ar reilffyrdd yng Nghymru sydd wedi'i gydnabod gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cymeradwyo piblinell o flaenoriaethau gwella rheilffyrdd a nodwyd gan Fwrdd Rheilffyrdd Cymru. Y blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer gwella’r rheilffyrdd yw cyflawni argymhellion Comisiynau Trafnidiaeth Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys gorsafoedd newydd a gwelliannau capasiti i gefnogi mwy o wasanaethau newydd. Gan adeiladu ar ein buddsoddiad rheilffyrdd ein hunain, bydd hyn yn gwella mynediad at swyddi ac addysg. Mae hyn yn gam enfawr ymlaen ac yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd.

Dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £5bn ychwanegol mewn cyllid adnoddau a chyfalaf. Mae'r cyllid hwn yn adeiladu ar £1.6bn a ddarparwyd yng Nghyllideb yr Hydref, sy'n golygu y gallwn ymateb yn well i flaenoriaethau Cymru a chyflawni gwelliannau ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

You may also be interested in

Janet

Frustration at GoSafe’s Terrible Standard of Communication

Tuesday, 14 October, 2025
GoSafe is the Wales Road Casualty Reduction Partnership. Its overall aim is to make people safer on Welsh roads by reducing casualties and saving lives.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree