Adferiad held a public meeting today (05/09/2025), at Blind Veterans, Llandudno.
The meeting was chaired by Alun Thomas, Chief Executive of Adferiad, and Clive Wolfendale, Vice Chair of Trustees. Also at the meeting were Janet Finch-Saunders MS/AS, Cllr Antony Bertola, Mayor of Llandudno, Cllr Chris Hughes, and representatives of North Wales Police.
During the meeting it was explained that the aim is for the centre to become a detox hospital with 40 beds. All beds will be on the 1st and 2nd floors, with ancillary staff on the ground floor. The other buildings would be used for staff accommodation.
Patients would be coming for 10 – 14 days for medical treatment. They will be moved there by the Adferiad team or St John’s Ambulance.
The hospital will be staffed 24/7 with qualified staff providing care and managing the security functions. There would be doctors, nurses, grounds, catering staff, and more.
Adferiad made clear that there will be other opportunities for residents to ask questions, including outside of working hours. Details of the next meeting will be published in due course.
Commenting after the meeting, Janet said:
“I welcome this first opportunity today for residents to learn more about the proposal and seek answers to questions.
“The last thing we want is for this magnificent building, founded as a convalescent home, to remain empty.
“It was clear from the presentation that Adferiad have a long record of managing facilities professionally and providing assistance to some of the most vulnerable people in society.
“I encourage any residents with questions to engage. Indeed, I know that Adferiad are eager to work positively with us all”.
ENDS
Note: Note of the meeting taken by the office of Janet Finch-Saunders MS/AS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS and Cllr Antony Bertola, Mayor of Llandudno
Cynhaliodd Adferiad gyfarfod cyhoeddus heddiw (05/09/2025), yn Blind Veterans, Llandudno.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad, a Clive Wolfendale, Is-gadeirydd yr Ymddiriedolwyr. Hefyd yn y cyfarfod roedd Janet Finch-Saunders AS, y Cynghorydd Antony Bertola, Maer Llandudno, y Cynghorydd Chris Hughes, a chynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru.
Yn ystod y cyfarfod eglurwyd mai'r nod yw i'r ganolfan droi’n ysbyty dadwenwyno (detox) gyda 40 o welyau. Bydd yr holl welyau ar y llawr 1af a'r 2il lawr, gyda staff ategol ar y llawr gwaelod. Byddai'r adeiladau eraill yn cael eu defnyddio ar gyfer llety staff.
Byddai cleifion yn dod i mewn am 10 – 14 diwrnod am driniaeth feddygol. Byddant yn cael eu symud yno gan dîm Adferiad neu Ambiwlans Sant Ioan.
Bydd yr ysbyty yn cael ei staffio 24/7 gan staff cymwys a fydd yn darparu gofal ac yn rheoli'r swyddogaethau diogelwch. Byddai meddygon, nyrsys, gweithwyr ward, staff arlwyo, a mwy yno.
Pwysleisiodd Adferiad y bydd cyfleoedd eraill i breswylwyr ofyn cwestiynau, gan gynnwys y tu allan i oriau gwaith. Bydd manylion y cyfarfod nesaf yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Janet:
"Rwy'n croesawu'r cyfle cyntaf hwn heddiw i drigolion ddysgu mwy am y cynnig a cheisio atebion i’w cwestiynau.
"Y peth olaf rydyn ni ei eisiau yw i'r adeilad godidog hwn, a sefydlwyd fel cartref ymadfer, aros yn wag.
"Roedd hi’n amlwg o'r cyflwyniad bod gan Adferiad hanes hir o reoli cyfleusterau'n broffesiynol a darparu cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
"Rwy'n annog unrhyw breswylwyr sydd â chwestiynau i gysylltu. Yn wir, rwy'n gwybod bod Adferiad yn awyddus i weithio'n gadarnhaol gyda ni i gyd".
DIWEDD