
Plaid Cymru have been criticised for undermining national security by opposing continued investment in nuclear weapons so to defend the United Kingdom.
The comment came from Janet Finch-Saunders MS following the participation of Liz Saville-Robers MP, Leader of Plaid Cymru in Westminster, in an event held by the Campaign for Nuclear Disarmament on 16 July. The event saw His Excellency Jeremiah Nyamane Mamabolo, South African High Commissioner to the UK, highlight how South Africa was the first African nation to sign the Treaty on the Prohibition of Nuclear Weapons.
The UK’s nuclear deterrent has three main elements:
• Four Vanguard-class submarines (SSBN), maintaining continuous at sea deterrence (CASD), based at Faslane;
• Trident II D5 missile, deployed aboard the submarine, which is held in a communal pool with the US, situated at the Kings Bay Submarine Base in Georgia;
• Mk4A nuclear warhead deployed on the Trident II D5, with up to 12 independently targetable warheads per missile.
Commenting on the importance of nuclear weapons for the defence of Wales and the UK, Janet said:
“At a time of increasing global instability, it is totally irresponsible to be campaigning against nuclear weapons and the deterrent they provide to hostile actors.
“Quite rightly, we are modernising our nuclear capability. For example, the Vanguard class submarines are being replaced with a new Dreadnought class from the early 2030s; a programme has commenced to move to a new warhead; the UK is purchasing 12 F-35As, and enhancing NATO’s nuclear mission.
“The Strategic Defence Review confirmed we face new nuclear risks, with other states increasing, modernising and diversifying their nuclear arsenals.
“Maintaining and modernising our nuclear capability is in the best interest of our national security. Campaigning against nuclear deterrence undermines that security, and should Plaid Cymru be successful, place not only this country but all our NATO allies at increased risk from countries such as Russia, China, Iran, and North Korea”.
ENDS
Mae Plaid Cymru wedi cael ei beirniadu am danseilio diogelwch cenedlaethol drwy wrthwynebu buddsoddiad parhaus mewn arfau niwclear er mwyn amddiffyn y Deyrnas Unedig.
Daeth y sylw gan Janet Finch-Saunders AS wedi i Liz Saville-Robers AS, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, gymryd rhan mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear ar 16 Gorffennaf. Yn y digwyddiad, fe wnaeth Ei Ardderchogrwydd Jeremiah Nyamane Mamabolo, Uchel Gomisiynydd De Affrica i'r DU, dynnu sylw at y ffaith mai De Affrica oedd y genedl Affricanaidd gyntaf i lofnodi'r Cytuniad ar Wahardd Arfau Niwclear.
Mae tair prif elfen i arfau ataliol niwclear y DU:
• Pedair llong danfor dosbarth Vanguard (SSBN), sy'n cynnal ataliaeth barhaus ar y môr (CASD), yn Faslane;
• Taflegryn Trident II D5, sydd wedi'i osod ar fwrdd y llong danfor, sy'n cael ei gadw mewn pwll cymunedol gyda'r Unol Daleithiau, yng Nghanolfan Llongau Tanfor Kings Bay yn Georgia;
• Arfben niwclear Mk4A sydd wedi'i osod ar y Trident II D5, gyda hyd at 12 o arfbennau annibynnol y gellir eu targedu fesul taflegryn.
Wrth sôn am bwysigrwydd arfau niwclear i amddiffyn Cymru a'r DU, dywedodd Janet:
“Ar adeg o ansefydlogrwydd byd-eang cynyddol, mae'n hollol anghyfrifol ymgyrchu yn erbyn arfau niwclear a'r ataliad y maen nhw'n ei ddarparu i genhedloedd gelyniaethus.
“Rydyn ni'n moderneiddio ein gallu niwclear, yn gwbl briodol. Er enghraifft, mae'r llongau tanfor dosbarth Vanguard yn cael eu disodli gyda dosbarth Dreadnought newydd o ddechrau'r 2030au; mae rhaglen eisoes wedi cychwyn i symud tuag at arfben newydd; mae'r DU yn prynu 12 awyren ymladd F-35A, ac yn gwella cenhadaeth niwclear NATO.
“Cadarnhaodd yr Adolygiad Amddiffyn Strategol ein bod yn wynebu risgiau niwclear newydd, gyda gwladwriaethau eraill yn cynyddu, moderneiddio ac arallgyfeirio eu harfau niwclear.
“Mae cynnal a moderneiddio ein gallu niwclear er budd ein diogelwch cenedlaethol. Mae ymgyrchu yn erbyn ataliaeth niwclear yn tanseilio'r diogelwch hwnnw, ac os bydd Plaid Cymru yn llwyddiannus, byddai hynny nid yn unig golygu bod y wlad hon yn wynebu perygl cynyddol gan wledydd fel Rwsia, Tsieina, Iran, a Gogledd Korea ond byddai ein holl gynghreiriaid NATO yn wynebu'r un perygl cynyddol hefyd ”.
DIWEDD