From the beautiful garden centre, to the world-famous grounds, Bodnant Gardens offers a wonderful day out that everyone can enjoy.
Created over 150 years, with plants collected and brought to Britain from far afield, and the incredible vision of generations of the McLaren family and Puddle head gardeners, this haven of rarity and beauty with a stunning backdrop of the Carneddau mountains of Eryri is a delight for the senses.
Janet Finch-Saunders, the Member of Welsh Parliament for Aberconwy, thoroughly enjoyed her visit to Bodnant Gardens and thanked all of the staff members and volunteers that work tirelessly to ensure that all visitors have a brilliant day out.
Commenting on her visit to Bodnant Gardens, Janet said:
“I would like to express my sincere thanks to all of the wonderful hard working staff and volunteers at Bodnant, for all of their unceasing commitment to creating and maintaining paradise on earth.
“From all of the beautiful flowers, the winding trails, and the iconic buildings, Bodnant Gardens offers people a sense of exploration and a sense of tranquillity.
“As a keen gardener, it was a delight to learn about the plants that they have on display, and the stories surrounding them.
“I recommend that you all take the opportunity to head over to Bodnant. Thanks to nature and the hard working team, it has something different to see and experience every time”.
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS at Bodnant Gardens
O'r ganolfan arddio hardd, i'r tiroedd byd-enwog, mae Gerddi Bodnant yn cynnig diwrnod allan gwych y gall pawb ei fwynhau.
Wedi'i chreu dros 150 o flynyddoedd yn ôl, gyda phlanhigion wedi'u casglu a'u cludo i Brydain o bedwar ban, a gweledigaeth anhygoel cenedlaethau o'r teulu McLaren a’r prif arddwyr Puddle, mae'r hafan hon o blanhigion prin a harddwch, ynghyd â chefnlen ogoneddus y Carneddau, yn wledd i’r synhwyrau.
Cafodd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, flas mawr ar ei hymweliad â Gerddi Bodnant a diolchodd i'r holl aelodau staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael diwrnod i’r brenin yno.
Gan drafod ei hymweliad â Gerddi Bodnant, dywedodd Janet:
"Hoffwn ddiolch o galon i'r holl staff a gwirfoddolwyr gwych sy'n gweithio'n galed ym Modnant ac am eu hymrwymiad diflino i greu a chynnal paradwys ar y ddaear.
"O'r holl flodau hardd, y llwybrau igam-ogam a'r adeiladau eiconig, mae Gerddi Bodnant yn cynnig ymdeimlad o chwilfrydedd a thawelwch i bobl.
"Fel garddwr brwd, roedd hi’n bleser dysgu am y planhigion sydd ganddyn nhw yno, a'r straeon amdanyn nhw.
"Rwy'n argymell eich bod chi i gyd yn bachu ar y cyfle i fynd draw i Fodnant. Diolch i natur a'r tîm gweithgar, mae rhywbeth gwahanol i'w weld a'i brofi yno bob tro".
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS yng Ngerddi Bodnant