
Local Member for Aberconwy, Janet Finch-Saunders MS, has expressed disappointment and anger at the lack of funding for railways in Wales following the spending review last week.
Janet has been a big support of the North Wales Main Line, but is concerned that the funding will fall far short of what was expected and will mainly fund projects in South East Wales.
The Welsh Governments own figures show that the UK government has invested over a billion pounds into the Welsh rail network over the last 10 years, and around £1.4billion if you count the money put into the South Wales Metro.
This is 3 times as much as was announced. The Spending Review will award Wales £445 million over 10 years, it sounds like a lot but it works out at just over £40million a year which is peanuts in terms of rail spending and around a third of the 1.4billion spent by the last UK Conservative Government.
After years of complaining of “under funding” for Welsh Railways and calling for extra money to make up for the spending on HS2 there was an assumption that a lot of money would be forthcoming – not a huge cut.
Commenting, Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Aberconwy said:
“Labour have been promising us an increase in funding for our railways for over a decade, especially for the North Wales Main Line.
“I am concerned that without extra funding my constituents will be left behind, suffering from a lack of investment in our railways
“I am disappointed Claire Hughes has not stood up more for Aberconwy in getting us further funding for our railways.”
ENDS
Mae'r Aelod o’r Senedd lleol dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders AS, wedi mynegi siom a dicter am y diffyg cyllid ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru yn dilyn yr adolygiad o wariant yr wythnos diwethaf.
Mae Janet wedi bod yn gefnogwr brwd i Brif Linell Gogledd Cymru, ond mae'n poeni y bydd y cyllid yn llawer llai na'r hyn a ddisgwyliwyd ac y bydd yn ariannu prosiectau yn Ne-ddwyrain Cymru yn bennaf.
Mae ffigurau Llywodraeth Cymru eu hunain yn dangos bod llywodraeth y DU wedi buddsoddi dros biliwn o bunnoedd yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf, a thua £1.4biliwn os ydych chi'n cyfrif yr arian a roddwyd i Metro De Cymru.
Mae hyn 3 gwaith yn fwy nag a gyhoeddwyd. Bydd yr Adolygiad o Wariant yn dyfarnu £445 miliwn i Gymru dros 10 mlynedd, sy'n swnio fel swm mawr ond ychydig dros £40miliwn y flwyddyn ydyw, sy'n arian mân o ran gwariant ar reilffyrdd a thua thraean o'r 1.4biliwn a wariwyd gan Lywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU.
Ar ôl blynyddoedd o gwyno am "dan-gyllido" Rheilffyrdd Cymru a galw am arian ychwanegol i wneud iawn am y gwariant ar HS2, tybiwyd y byddai llawer o arian ar ddod - nid toriad enfawr.
Wrth sôn am hyn, dywedodd Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy:
"Mae Llafur wedi bod yn addo mwy o arian ar gyfer ein rheilffyrdd ers dros ddegawd, yn enwedig ar gyfer Prif Linell Gogledd Cymru.
"Heb gyllid ychwanegol, rwy'n poeni y bydd fy etholwyr yn cael eu gadael ar ôl, yn dioddef o ddiffyg buddsoddiad yn ein rheilffyrdd
"Rwy'n siomedig nad yw Claire Hughes wedi sefyll yn fwy cadarn dros Aberconwy wrth gael cyllid pellach i ni ar gyfer ein rheilffyrdd."
DIWEDD