
8 June 2025 marks ten years since Betsi Cadwaladr University Health Board was first placed in special measures.
When the Health Board first entered special measures in 2025, 86,845 pathways were waiting to start treatment, that figure now stands at 198,976.
Back in 2015, just two people were waiting more than two years for treatment, now 5,747 people are waiting.
In 2015 15% of patients waited more than 4 hours in A&E services, that figure is now 32% of patients.
Commenting on the Health Board in special measures Janet said:
“One of the main reasons that the Health Board was placed in special measures was the horrendous situation with mental health services, especially in Glan Clywd. A decade on, we still have failing mental health services in North Wales.
“It has been seven years since the Labour Welsh Government promised to replace the Ablett Unit with a new state of the art mental health unit. We are still waiting.
“Rather than usher in improvements, direct Welsh Government interventions has seen several aspects of the health service become even worse. Just look at the horrendous waiting times. The number of two year-waits have increased by 250%!
“Even with direct Welsh Labour oversight, and after years of special measures, auditors discovered at least £122m was not properly accounted for, highlighting again serious concerns about leadership and governance.
“The hard working staff at the Health Board and residents across North Wales deserve answers as to why special measures has been a failure, and a clear pathway of improvement. That is why we now need a public inquiry”.
ENDS
Mae 8 Mehefin 2025 yn nodi deng mlynedd ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi o dan fesurau arbennig am y tro cyntaf.
Pan aeth y Bwrdd Iechyd dan fesurau arbennig am y tro cyntaf, roedd 86,845 o lwybrau yn aros i ddechrau triniaeth. Mae'r ffigur hwnnw bellach yn 198,976.
Yn ôl yn 2015, dim ond dau berson oedd yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth. Bellach mae 5,747 o bobl yn aros.
Yn 2015 roedd 15% o gleifion yn aros mwy na 4 awr yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Bellach, mae hynny’n wir am 32% o gleifion.
Wrth sôn am y Bwrdd Iechyd o dan fesurau arbennig, dywedodd Janet:
"Un o'r prif resymau pam y cafodd y Bwrdd Iechyd ei roi o dan fesurau arbennig oedd y sefyllfa ofnadwy gyda gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig yn ysbyty Glan Clwyd. Ddegawd yn ddiweddarach, mae gennym ni wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd sy'n parhau i fethu.
"Mae wedi bod yn saith mlynedd ers i Lywodraeth Lafur Cymru addo disodli Uned Ablett gydag uned iechyd meddwl newydd o'r radd flaenaf. Rydyn ni'n dal i aros amdani.
"Yn hytrach na chyflwyno gwelliannau, mae ymyriadau uniongyrchol Llywodraeth Cymru wedi gweld sawl agwedd ar y gwasanaeth iechyd yn gwaethygu. Edrychwch ar yr amseroedd aros ofnadwy. Mae nifer y bobl sy’n aros dwy flynedd wedi cynyddu 250%!
"Hyd yn oed gyda goruchwyliaeth uniongyrchol Llafur Cymru, ac ar ôl blynyddoedd o fesurau arbennig, darganfu archwilwyr bod o leiaf £122 miliwn nad oedd wedi ei gyfrifo yn briodol, gan dynnu sylw eto at bryderon difrifol am arweinyddiaeth a llywodraethu.
"Mae'r staff sy'n gweithio'n galed yn y Bwrdd Iechyd a thrigolion ledled y gogledd yn haeddu atebion ynghylch pam mae mesurau arbennig wedi bod yn fethiant, a llwybr clir tuag at welliant. Dyna pam mae angen ymchwiliad cyhoeddus arnom ni nawr".
DIWEDD