
Work has commenced on the new walking, cycling and wheeling route between Glan Conwy and RSPB, Llandudno Junction.
In this first phase, the contractor is improving the path between the RSPB car park and Conwy Cob and creating the new path beyond the car park.
Between May and September, there will only be limited work outside of sensitive areas, to avoid disturbing birds within the reserve.
From September work will start on the onward route towards Glan Conwy.
Please note that RSPB open as usual.
Commenting on the new active travel route, Janet said:
“When I was a Cabinet Member on Conwy County Borough Council, in 2004, having a cycle route connecting Glan Conwy to Llandudno Junction was recognised as a priority.
“After years of work, organising meetings with key stakeholders, scrutinising the Welsh Government, and corresponding extensively with the Local Authority, I am pleased that we have reached a point where the build has commenced.
“We have arrived at this stage knowing that there has been significant demand by local residents and families for the route to be built.
“It has been a massive effort, and there are many who have played a major role in helping me keep up the momentum. I am grateful to them all, and the UK Conservative Government for providing the money to make this fantastic idea a reality!”
ENDS
Mae gwaith wedi dechrau ar y llwybr cerdded, beicio ac olwyno newydd rhwng Glan Conwy a'r RSPB, Cyffordd Llandudno.
Yn y cam cyntaf hwn, mae'r contractwr yn gwella'r llwybr rhwng maes parcio'r RSPB a Chob Conwy ac yn creu'r llwybr newydd y tu hwnt i'r maes parcio.
Rhwng mis Mai a mis Medi, ychydig iawn o waith fydd yn cael ei wneud y tu allan i ardaloedd sensitif, er mwyn osgoi tarfu ar adar yn y warchodfa.
O fis Medi ymlaen, bydd gwaith yn dechrau ar y llwybr ymlaen tuag at Lan Conwy.
Noder fod yr RSPB ar agor fel arfer.
Wrth sôn am y llwybr teithio llesol newydd, dywedodd Janet:
“Pan oeddwn i'n Aelod o'r Cabinet ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2004, cydnabuwyd bod creu llwybr beicio yn cysylltu Glan Conwy â Chyffordd Llandudno yn flaenoriaeth.
“Ar ôl blynyddoedd o waith yn trefnu cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allweddol, yn craffu ar Lywodraeth Cymru ac yn gohebu'n helaeth â'r Awdurdod Lleol, rwy'n falch ein bod ni wedi cyrraedd pwynt lle mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau.
“Rydyn ni wedi cyrraedd y cam hwn gan wybod bod galw mawr wedi bod gan drigolion a theuluoedd lleol am adeiladu'r llwybr hwn.
“Mae wedi bod yn ymdrech enfawr, ac mae llawer o bobl wedi gwneud cyfraniad allweddol at fy helpu i gadw'r momentwm. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw i gyd, ac i Lywodraeth Geidwadol y DU am ddarparu'r arian i wireddu'r syniad gwych hwn!”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS mewn cyfarfod gyda rhanddeiliaid allweddol yn RSPB Conwy