Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Have YOUR Say on the Conwy Valley Railway Line! Dweud EICH Dweud am Rheilffordd Dyffryn Conwy?
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Tributes to Our Fallen in VE Ceremony/Teyrngedau i’r rhai a fu farw yn y rhyfel yn y Seremoni Diwrnod VE

  • Tweet
Monday, 12 May, 2025
  • Local News
Janet

Over the weekend the 80th anniversary of VE Day commemorations continued across the country. In Llandudno, a parade along the promenade took place, followed by an emotional service at the war memorial.

 

Janet Finch-Saunders, the Member of Welsh Parliament for Aberconwy, was honoured to attend at take part in the commemorations, along with Claire Hughes MP for Bangor Aberconwy, and other civic dignitaries, by laying a wreath.

 

This was a prominent moment and celebration which encourages people to reflect on the freedoms we have today and the sacrifices that so many people have made to ensure that they are preserved.

 

Commenting on the parade and war memorial service, Janet said:

 

“It was an honour to take part in the parade along Llandudno promenade and the wonderful service held at the war memorial.

 

“It was a moving occasion and even more so seeing the cadet force and other armed forces representatives, as it reminds us that even today, people are putting their own lives at risk to ensure that we are protected and maintain the freedom that we all enjoy.

 

“VE Day and other anniversaries are a fantastic way for us to all reflect and to thank those who served and as well as those who made the ultimate sacrifice during the Second World War.

 

“I would also like to thank all of those who organised and made the parade and the service such a wonderful and impactful event”.

 

Photo: 

Janet Finch-Saunders MS/AS at the Llandudno War Memorial. 

Dros y penwythnos parhaodd y digwyddiadau i goffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VE ledled y wlad. Yn Llandudno, cynhaliwyd gorymdaith ar hyd y promenâd, ac yna gwasanaeth emosiynol wrth y gofeb ryfel.

 

Roedd Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy, yn teimlo anrhydedd mawr yn cael bod yn bresennol a chymryd rhan yn y coffáu, ynghyd â Claire Hughes, AS Bangor Aberconwy, a phwysigion eraill, drwy osod torch.

 

Roedd hon yn foment a dathliad amlwg sy'n annog pobl i fyfyrio ar y rhyddid sydd gennym heddiw a'r aberth y mae cymaint o bobl wedi'i wneud i sicrhau ein bod ni’n dal i gael y rhyddid hwnnw.

 

Wrth sôn am yr orymdaith a'r gwasanaeth coffa rhyfel, dywedodd Janet:

 

"Roedd yn anrhydedd cymryd rhan yn yr orymdaith ar hyd promenâd Llandudno a'r gwasanaeth gwych a gynhaliwyd wrth y gofeb ryfel.

 

"Roedd yn achlysur teimladwy a hyd yn oed yn fwy felly wrth weld y llu cadetiaid a chynrychiolwyr eraill y lluoedd arfog, gan ei fod yn ein hatgoffa bod pobl yn peryglu eu bywydau, hyd yn oed heddiw, er mwyn sicrhau ein bod yn cael ein hamddiffyn ac er mwyn cynnal y rhyddid rydyn ni i gyd yn ei fwynhau.

 

"Mae Diwrnod VE a diwrnodau cofio eraill yn ffordd wych i ni i gyd fyfyrio a diolch i'r rhai a wasanaethodd yn ogystal â'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

"Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a drefnodd yr orymdaith a'r gwasanaeth ac a’u gwnaeth yn ddigwyddiad mor wych ac effeithiol".

 

Ffoto:

Janet Finch-Saunders AS/MS wrth Gofeb Ryfel Llandudno.

You may also be interested in

Challenging the Cabinet Secretary on the 90% trade slumps experienced due to the closure of Holyhead

Wednesday, 2 July, 2025
Challenging the Cabinet Secretary on the 90% trade slumps experienced due to the closure of Holyhead terminals. (02.07.2025)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree