
Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is heartbroken over the disappearance of the iconic bronze bust of Queen Victoria, which has graced Llandudno’s Happy Valley gardens for more than 130 years.
The statue, erected in 1887 to commemorate Queen Victoria's Golden Jubilee, has stood as a symbol of strength and resilience, having weathered two world wars, the Cold War, and even the challenges of the Covid-19 pandemic.
The bust was not just an ornament; it was a testament to Llandudno's rich history and the pride we take in our community. Its absence from its plinth in the Happy Valley gardens, and the damage done to that plinth, have left a gaping void.
Commenting on the disappearance, Janet said:
“North Wales Police are investigating this incident, and I urge anyone who has seen the statue, knows of its whereabouts, or has any information, no matter how small, to come forward and assist the police with their enquiries. If you spot anything suspicious or have any knowledge about this theft, please report it immediately.
“This act is not just theft; it is an attack on our shared heritage and the identity of Llandudno. I echo the fears expressed by local councillors that the statue may have been taken with the intent of melting it down for scrap. This would be an unimaginable loss of cultural and historical value, and we must do all we can to prevent it.
“I implore everyone in our community and beyond to stay vigilant. If you are out walking near the Happy Valley gardens or elsewhere and see anything unusual, please do not hesitate to report it.
“Queen Victoria’s bronze bust has been a steadfast observer of our town's growth and change for over a century. It is a part of Llandudno’s soul, and we must work together to bring it back to its rightful place.
“Let us show that the community spirit of Llandudno is stronger than ever. Together, we can ensure that this cherished piece of our history is returned.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy yn dorcalonnus bod penddelw efydd eiconig y Frenhines Fictoria, sydd wedi sefyll yng ngerddi'r Fach, Llandudno ers 130 a mwy o flynyddoedd, wedi diflannu.
Mae'r cerflun, a godwyd ym 1887 i goffáu Jiwbilî Aur y Frenhines Fictoria, yn symbol o nerth a chadernid ac wedi goroesi dau ryfel byd, y Rhyfel Oer, a hyd yn oed heriau pandemig Covid-19.
Ond roedd y penddelw yn fwy nag addurn; roedd yn tystio i hanes cyfoethog Llandudno a'n balchder bro. Mae ei absenoldeb o'r gerddi a'r difrod a wnaed i'r plinth, wedi gadael bwlch enfawr.
Wrth sôn am ei ddiflaniad, dywedodd Janet:
“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i'r digwyddiad hwn, ac rwy'n annog unrhyw un sydd wedi gweld y cerflun, sy'n gwybod lle mae o, neu sydd ag unrhyw wybodaeth, waeth pa mor fach, i helpu’r heddlu gyda'u hymholiadau. Os ydych chi'n sylwi ar unrhyw beth amheus neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y lladrad hwn, rhowch wybod ar unwaith.
“Nid lladrad yn unig ydy o; mae'n ymosodiad ar y dreftadaeth a rannwn ac ar hunaniaeth Llandudno. Rwy'n ategu'r ofnau a fynegwyd gan gynghorwyr lleol y gallai'r cerflun fod wedi'i gymryd gyda'r bwriad o'i doddi i’w sgrapio. Byddai hyn yn golled o werth diwylliannol a hanesyddol, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal hyn.
“Rwy’n erfyn ar bawb yn ein cymuned a thu hwnt i fod yn wyliadwrus. Os ydych chi'n mynd am dro ger gerddi'r Fach neu rywle arall ac yn gweld unrhyw beth anarferol, da chi, ewch ati i riportio'r mater.
“Mae penddelw efydd y Frenhines Fictoria wedi cadw llygad barcud ar dwf a newid ein tref ers dros ganrif. Mae'n rhan o enaid Llandudno, ac mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i'w ddychwelyd i'w briod le.
“Gadewch i ni ddangos bod ysbryd cymunedol Llandudno yn gryfach nag erioed. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod y darn annwyl hwn o'n hanes yn dod adre.”
DIWEDD