Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is disappointed by the recent revelations that across Wales there will be a £540m budget shortfall for Local Authorities.
Conwy County Borough Council is projected to have a £22.7m budget shortfall next year, with projections explaining this could rise over £30m by 2026-27.
The draft budget is due in December and sweeping cuts are expected, particularly to education.
Commenting on the news Janet said:
“It is an incredibly difficult time for councils across Wales, but particularly in Conwy where we are facing one of the highest budget shortfalls per head.
“I am aware that education is facing some major cuts with school transport, additional learning support and the arts all on the chopping board.
“This is especially difficult when we have recently learnt that the Council has spent nearly £16k on security for the deserted Mochdre depot – alongside the £20k a month for the lease.
“Adding to this concern is the anxiety many feel about rising Council Premiums next year, especially after it was revealed that £50,000 will be spent on hiring new administrative staff to manage these increases.
“I am really disappointed in the Leader and the Cabinet. When we are facing these cuts we really need them to be more proactive and to fight their case for increased funds through the funding formula.
“Conwy County Borough Council does not receive a fair settlement from the Welsh Government. For example, Denbighshire receives around £200 per head more than Conwy.
“As per the formula, children get more funds than elderly people. Meaning for Aberconwy with our larger elderly community we are being short changed every year.
“If we had the same rate Conwy would receive an additional £20 million a year.
“I am therefore urging the Leader and the Cabinet to raise this significant shortfall with the Welsh Government and advocate for a change in the funding formula on behalf of our communities.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn siomedig ar ôl clywed yn ddiweddar y bydd diffyg o £540 miliwn yn y gyllideb i Awdurdodau Lleol ledled Cymru.
Rhagwelir y bydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddiffyg o £22.7 miliwn yn y gyllideb y flwyddyn nesaf, gyda rhagamcanion yn egluro y gallai hyn godi i dros £30 miliwn erbyn 2026-27.
Mae disgwyl i’r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr ac mae’n debyg y bydd yna doriadau ysgubol, yn enwedig i addysg.
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
"Mae'n gyfnod eithriadol o anodd i gynghorau ledled Cymru, ond yn enwedig yng Nghonwy lle rydym yn wynebu un o'r diffygion cyllideb uchaf y pen.
"Rwy'n ymwybodol bod addysg yn wynebu toriadau mawr gyda chludiant ysgol, cymorth dysgu ychwanegol a'r celfyddydau yn mynd i gael eu heffeithio.
"Mae hyn yn arbennig o anodd yn enwedig wrth glywed yn ddiweddar bod y Cyngor wedi gwario bron i £16,000 ar ddiogelwch ar gyfer depo gwag ym Mochdre - ochr yn ochr â'r £20,000 y mis ar gyfer y brydles.
"Yn ychwanegol i’r pryder hwn mae'r pryder y mae llawer yn ei deimlo am Bremiymau Cyngor uwch y flwyddyn nesaf, yn enwedig ar ôl i’r Cyngor ddatgelu y bydd £50,000 yn cael ei wario ar gyflogi staff gweinyddol newydd i reoli'r cynnydd hwn.
"Rwy'n siomedig iawn gyda'r Arweinydd a'r Cabinet. Wrth i ni wynebu'r toriadau hyn, mae gwir angen iddynt fod yn fwy rhagweithiol ac ymladd eu hachos dros fwy o arian drwy'r fformiwla ariannu.
"Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn derbyn setliad teg gan Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae Sir Ddinbych yn derbyn tua £200 y pen yn fwy na Chonwy.
"Yn unol â'r fformiwla, mae plant yn cael mwy o arian na phobl hŷn. Mae hyn yn golygu ein bod ni yn Aberconwy, gyda’n cymuned fawr o henoed, ar ein colled bob blwyddyn.
"Pe bai’r un gyfradd yn berthnasol i bawb byddai Conwy yn derbyn £20 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn.
"Felly, rwy'n annog yr Arweinydd a'r Cabinet i godi'r diffyg sylweddol hwn gyda Llywodraeth Cymru ac eirioli dros newid yn y fformiwla ariannu ar ran ein cymunedau."
DIWEDD