Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has hit out at Betsi Cadwaladr University Health Board after it was disclosed that they are yet to respond to the proposal to build 152 houses opposite Ysgol y Creuddyn in Penrhyn Bay.
During the public meeting held by Mrs Finch-Saunders on Wednesday 11 September, Anwyl Homes disclosed that the Health Board are yet to respond to the pre-planning application submitted in December 2023, and that they now have until 9 October 2024 to respond to the recently submitted full planning application.
Speaking at the public meeting, the one and only GP at Penrhyn Medical Centre outlined that they are overwhelmed. The one GP has 6,425 patients, and cannot cope with more.
Commenting on the impact of the proposed development on local medical services, Janet said:
“I would like to thank everyone who attended the public meeting, and especially the local GP and teachers for speaking honestly of the detrimental impact the development would have on their services.
“In terms of the GP practice, it is the Health Board’s responsibility to respond to the planning application and state that the Penrhyn Bay Medical Centre cannot cope with more patients, and as such ask the Local Planning Authority to place conditions on the development that necessitate a financial contribution towards the Medical Centre.
“By ignoring pre-planning and planning applications the Health Board is causing local hospitals and surgeries to lose out on investment which would help them adapt to try and expand their service to cater for the increased number of residents in the area.”
Commenting on the impact on local school provision, Janet said:
“The primary school closest to the proposed new estate is Ysgol Glanwydden. As the Head and Deputy made abundantly clear, the school is in a bad state of repair, and needs considerably more support than is being offered.
“It was also apparent at the meeting that the proposed new carpark, whilst welcome, is too small, and will not address the serious parking and traffic situation on all roads near the primary and secondary schools.
“Given that the fields have been identified as a contingency site for development in the Local Development Plan it is highly likely that planning permission will be granted. What I ask is that the Local Planning Authority use all levers at its disposal to ensure that concerns such as traffic, parking, and medical provision are tackled through planning conditions”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi beirniadu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad ydyn nhw eto wedi ymateb i'r cynnig i godi 152 o dai gyferbyn ag Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn.
Yn ystod y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gan Mrs Finch-Saunders ddydd Mercher 11 Medi, datgelodd Anwyl Homes nad yw'r Bwrdd Iechyd wedi ymateb eto i'r cais cyn-gynllunio a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2023, a bod ganddyn nhw bellach tan 9 Hydref 2024 i ymateb i'r cais cynllunio llawn a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Wrth siarad yn y cyfarfod cyhoeddus, amlinellodd yr unig feddyg teulu yng Nghanolfan Feddygol Penrhyn eu bod wedi eu gorlethu. Mae gan yr un meddyg teulu 6,425 o gleifion, ac ni all ymdopi â mwy.
Wrth sôn am effaith y datblygiad arfaethedig ar wasanaethau meddygol lleol, dywedodd Janet:
"Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd y cyfarfod cyhoeddus, ac yn enwedig y meddyg teulu lleol a'r athrawon am siarad yn onest am yr effaith andwyol y byddai'r datblygiad yn ei chael ar eu gwasanaethau.
"O ran y feddygfa, cyfrifoldeb y Bwrdd Iechyd yw ymateb i'r cais cynllunio a datgan na all Canolfan Feddygol Bae Penrhyn ymdopi â mwy o gleifion, ac felly gofyn i'r Awdurdod Cynllunio Lleol osod amodau ar y datblygiad sy'n gofyn am gyfraniad ariannol tuag at y Ganolfan Feddygol.
"Drwy anwybyddu ceisiadau cyn-gynllunio a chynllunio, mae'r Bwrdd Iechyd yn achosi i ysbytai a meddygfeydd lleol golli allan ar fuddsoddiad a fyddai'n eu helpu i addasu i geisio ehangu eu gwasanaeth i wasanaethu’r nifer cynyddol o drigolion yn yr ardal."
Wrth sôn am yr effaith ar ddarpariaeth ysgolion lleol, dywedodd Janet:
"Yr ysgol gynradd sydd agosaf at yr ystad newydd arfaethedig yw Ysgol Glanwydden. Fel y nododd y Pennaeth a'r Dirprwy yn gwbl glir, mae'r ysgol mewn cyflwr gwael, ac mae angen llawer mwy o gefnogaeth nag sy'n cael ei chynnig.
"Roedd hefyd yn amlwg yn y cyfarfod bod y maes parcio newydd arfaethedig, er bod croeso mawr iddo, yn rhy fach, ac ni fydd yn mynd i'r afael â'r sefyllfa parcio a thraffig ddifrifol ar bob ffordd ger yr ysgolion cynradd ac uwchradd.
"O ystyried bod y caeau wedi'u nodi fel safle wrth gefn ar gyfer ei ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol, mae'n debygol iawn y bydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi. Yr hyn rwy'n ei ofyn yw bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddo i sicrhau bod pryderon fel traffig, parcio, a darpariaeth feddygol yn cael eu taclo drwy amodau cynllunio".
DIWEDD