Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, would like to wish Team GB the very best of luck at the Paralympics starting in Paris today.
Founded in Stoke Mandeville, Buckinghamshire, the games first took place alongside the Summer Olympics in 1948. Originally called the 1948 International Wheelchair Games they were later designated the 1st Paralympic Games.
With the Tokyo 2021 Games impacted by COVID and the Rio Games facing significant financial challenges, the London 2012 Paralympic Games remain the last major benchmark for the competition, positioning the upcoming Paris Games as London's key rival.
With 22 Welsh athletes competing in the games there are high hopes for Welsh medals to be won.
Commenting on the news Janet said:
“I am thrilled to see our Welsh athletes once again heading for Paris to bring home some Olympic glory. I wish the entire GB Team the very best of luck, but especially our fellow dragons competing.
“This time around, Team GB in Paris features a highly experienced group, including top Welsh athletes — javelin thrower Hollie Arnold and table tennis player Paul Karabardak — each making an impressive fifth appearance at the Paralympics.
“Wales made an impressive appearance at the Olympics a few weeks ago, achieving their best ever performance. A record 33 Welsh competitors, including 19 Olympic debutants, bringing home 13 medals.
“My very best to all competing and I cannot wait to watch an exciting round of sports to finish of the summer!”
ENDS
Hoffai Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, ddymuno pob lwc i Dîm Prydain Fawr yn y Gemau Paralympaidd sy'n dechrau ym Mharis heddiw.
Sefydlwyd y gemau yn Stoke Mandeville, Swydd Buckingham a chynhaliwyd y gemau am y tro cyntaf ochr yn ochr â Gemau Olympaidd yr Haf ym 1948. Yn wreiddiol, fe'u galwyd yn Gemau Cadair Olwyn Rhyngwladol 1948 ac yn ddiweddarach rhoddwyd yr enw Gemau Paralympaidd 1af iddynt.
Gyda Gemau Tokyo 2021 wedi'u heffeithio gan COVID a Gemau Rio yn wynebu heriau ariannol sylweddol, Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yw'r meincnod mawr olaf ar gyfer y gystadleuaeth, gan olygu mai Gemau Paris yw’r her fwyaf i gemau Llundain.
Gyda 22 o athletwyr Cymru yn cystadlu yn y gemau mae cry obaith y bydd medalau’n cael eu hennill i Gymru.
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
“Rwy'n falch iawn o weld ein hathletwyr o Gymru yn mynd i Baris unwaith eto i ddod â llwyddiant Olympaidd adref. Pob lwc i Dîm Prydain Fawr i gyd, ond yn enwedig ein cyd-ddreigiau sy'n cystadlu.
“Y tro hwn, mae Tîm Prydain Fawr ym Mharis yn cynnwys grŵp profiadol iawn, gan gynnwys athletwyr gorau Cymru — y taflwr gwaywffon Hollie Arnold a'r chwaraewr tenis bwrdd Paul Karabardak — y naill a’r llall yn ymddangos yn y Gemau Paralympaidd am y pumed tro.
“Gwnaeth Cymru argraff ar y Gemau Olympaidd ychydig wythnosau yn ôl, gan gyflawni eu perfformiad gorau erioed. 33 o gystadleuwyr o Gymru, gan gynnwys 19 yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf, gan ddod â 13 medal adref.
“Dymuniadau gorau i bawb sy'n cystadlu ac alla i ddim aros i wylio rownd gyffrous o chwaraeon i ddod â’r haf i ben!”
DIWEDD