Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Conwy Council agrees to Cooperate to Protect Historic Bridge / Cyngor Conwy yn cytuno i gydweithio i ddiogelu pont hanesyddol

  • Tweet
Thursday, 29 June, 2023
  • Senedd News
Llanrwst

Following serious damage caused to Pont Fawr, the pedestrian and vehicle bridge over the Conwy River, in Llanrwst, Janet Finch-Saunders MS wrote again to Conwy County Borough Council and the Welsh Government asking them to cooperate on developing a signal controlled solution on the A470 for the crossing. 

The Local Authority has responded positively, with Mr Geraint Edwards, Head of Environment, Roads, and Facilities, writing to the Member for Aberconwy stating:

“As the highway Authority for the B5106 we would need to work closely with the Welsh Government on any solutions to the bridge issues. We will ask North and Mind Wales Trunk Road Agent (NMWTRA) for an update on the matter and to keep us informed on any developments as they materialise.”

Further to the positive response from Conwy Council, Mrs Finch-Saunders has written to the Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters MS, with a request that he arrange for NMWTRA to cooperate with the Local Authority in an effort to develop a new signal controlled solution for Pont Fawr which involves both the B5106 and A470.

Speaking after taking action, Janet said:

“On 1 July 2021 I wrote to the Deputy Minister for Climate Change asking that he undertake a feasibility study into having an alternative signal controlled solution on the A470 for Pont Fawr in Llanrwst.

“A year later, it is frustrating that I am still having to ask again.

“I am grateful that Conwy County Borough Council have taken a positive stance and are willing to cooperate.  We should know soon if the Welsh Government are willing to play their part too.

“Every day the Deputy Minister delays is one where further damage and chaos could arise on the historic crossing, so I urge him to cooperate as the bridge shares a junction with a trunk road he is ultimately responsible for.”

ENDS

 

 

Yn dilyn difrod difrifol a achoswyd i Bont Fawr, y bont i gerddwyr a cherbydau dros Afon Conwy, yn Llanrwst, ysgrifennodd Janet Finch-Saunders AS eto at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt gydweithio ar ddatblygu datrysiad goleuadau traffig ar yr A470 ar gyfer y groesfan.

Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymateb yn gadarnhaol, gyda Mr Geraint Edwards, Pennaeth yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, yn ysgrifennu at yr Aelod Aberconwy yn nodi:

"Fel Awdurdod y Priffyrdd ar gyfer y B5106 byddai angen i ni weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar unrhyw atebion i broblemau'r bont. Byddwn yn gofyn i Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) am yr  wybodaeth ddiweddaraf am y mater ac yn gofyn i’r Asiant drosglwyddo’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw ddatblygiadau wrth iddynt godi."

Yn dilyn ymateb cadarnhaol gan Gyngor Conwy, mae Mrs Finch-Saunders wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, gyda chais iddo drefnu i NMWTRA gydweithredu gyda’r Awdurdod Lleol mewn ymdrech i ddatblygu datrysiad goleuadau traffig newydd ar gyfer Pont Fawr sy'n cynnwys y B5106 a'r A470.

Wrth siarad ar ôl gweithredu, dywedodd Janet:

"Ar 1 Gorffennaf 2021 ysgrifennais at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gofyn iddo gynnal astudiaeth ddichonoldeb i gael datrysiad goleuadau traffig amgen ar yr A470 ar gyfer Pont Fawr yn Llanrwst.

"Flwyddyn yn ddiweddarach, mae'n rhwystredig fy mod i'n dal i orfod gofyn eto.

"Rwy'n ddiolchgar bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymateb yn gadarnhaol a'u bod yn barod i gydweithio. Dylem wybod yn fuan a yw Llywodraeth Cymru yn fodlon chwarae eu rhan hefyd.

"Bob dydd y mae'r Dirprwy Weinidog yn oedi, gallai rhagor o ddifrod ac anhrefn godi ar y groesfan hanesyddol, felly rwy'n ei annog i gydweithredu gan fod y bont yn rhannu cyffordd â chefnffordd y mae'n gyfrifol amdani yn y pen draw."

DIWEDD

 

 

 

Attachments

Attachment Size
280623 Letter to the Deputy Minister / Llythyr at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd (719.39 KB) 719.39 KB
Letter from CCBC / Llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (215.59 KB) 215.59 KB

You may also be interested in

Vote

Education Committee Votes to Defer Decision on Ysgol Betws-y-Coed Consultation / Pwyllgor Addysg yn Pleidleisio i Ohirio Penderfyniad ar Ymgynghoriad Ysgol Betws-y-Coed

Wednesday, 5 November, 2025
After Cllr Aaron Wynne, Cabinet Member for Education, Conwy County Borough Council, presented a report to the Education Committee on 4/11/2025 with the aim of commencing a consultation on the potential closure of Ysgol Betws-y-Coed, the Committee voted to support the proposal by Cllr Liz Roberts to

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree