Janet Finch-Saunders MS has spoken out about the deteriorating waiting times for ophthalmology appointments at Betsi Cadwaladr University Health Board.
Ophthalmology is where doctors care for patients with eye conditions. They diagnose, treat and prevent disorders of the eyes and visual system.
According to the latest data, the total number of patient pathways waiting for an outpatient appointment and assessed as Health Risk Factor R1, which means that there is a risk of irreversible harm or significant patient adverse outcome if target date is missed, has increased from 28,886 in October 2019 to 39,003 in April 2023.
Over the same time period, the percentage of patient pathways waiting within target date or within 25% beyond target date for an outpatient appointment has fallen from 64.4% to 38.2%.
Commenting on the waiting times for eye care in North Wales, Janet said:
“Betsi Cadwaladr is yet again the worst performing Health Board throughout Wales.
“There is genuine health care inequality in this country when our Health Board has over double the amount of patient pathways awaiting an appointment at Cardiff and Vale University Health Board.
“Whilst in the capital around 60% are seen within the target date, or 25% beyond that, the figure is less than 40% here in the North.
“What this means is that constituents in Aberconwy are more likely to be waiting longer for appointments than residents elsewhere in Wales.
“The postcode lottery for hospital eye care must be stopped and Betsi Cadwaladr come forward with a clear plan to more effectively manage the deteriorating waiting list.”
ENDS
Written Question to Eluned Morgan MS, Minister for Health and Social Services:
What discussions has the Minister had with Betsi Cadwaladr University Health Board about introducing short term measures to combat the increasing number of patient pathways awaiting ophthalmology appointments?
Mae Janet Finch-Saunders AS wedi siarad am amseroedd aros yn gwaethygu ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Offthalmoleg yw pan fo meddygon yn gofalu am gleifion â chyflyrau ar y llygaid. Maen nhw’n gwneud diagnosis, yn trin ac yn atal anhwylderau'r llygaid a'r system golwg.
Yn ôl y data diweddaraf, mae cyfanswm y llwybrau cleifion sy'n aros am apwyntiad cleifion allanol ac yn cael eu hasesu fel Ffactor Risg Iechyd R1, sy'n golygu bod risg o niwed na ellir ei wrthdroi neu ganlyniadau andwyol sylweddol i gleifion os methir dyddiad targed, wedi cynyddu o 28,886 ym mis Hydref 2019 i 39,003 ym mis Ebrill 2023.
Dros yr un cyfnod, mae canran y llwybrau cleifion sy'n aros o fewn y dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'r dyddiad targed ar gyfer apwyntiad cleifion allanol wedi gostwng o 64.4% i 38.2%.
Wrth sôn am amseroedd aros am ofal llygaid yng Ngogledd Cymru, dywedodd Janet:
"Betsi Cadwaladr yw'r Bwrdd Iechyd sy'n perfformio waethaf drwy Gymru unwaith eto.
"Mae anghydraddoldeb gofal iechyd gwirioneddol yn y wlad hon. Mae gan ein Bwrdd Iechyd dros ddwbl nifer y llwybrau cleifion sy'n aros am apwyntiad o gymharu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
"Yn y brifddinas mae tua 60% yn cael eu gweld o fewn y dyddiad targed, neu o fewn 25% wedi’r dyddiad hwnnw. Mae'r ffigur yn llai na 40% yma yn y Gogledd.
"Yr hyn y mae hyn yn ei olygu yw bod etholwyr Aberconwy yn fwy tebygol o fod yn aros yn hirach am apwyntiadau na thrigolion mewn mannau eraill yng Nghymru.
"Mae'n rhaid atal y loteri cod post ar gyfer gofal llygaid mewn ysbytai, gan gyflwyno cynllun clir gan Betsi Cadwaladr i reoli'r rhestr aros sy'n dirywio yn fwy effeithiol."
DIWEDD
Cwestiwn Ysgrifenedig i Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch cyflwyno mesurau tymor byr i fynd i'r afael â'r nifer cynyddol o lwybrau cleifion sy'n aros am apwyntiadau offthalmoleg?