Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Llawenydd Lleol wrth i Val Conway dderbyn BEM

  • Tweet
Thursday, 24 February, 2022
  • Local News
Ceremony

 

Mae'r pencampwr lleol Mrs Val Conway wedi ennill Medal Ymerodraeth Prydain a chyflwynwyd y wobr iddi yn Taverners Court, Llandudno.  Mynychwyd y seremoni gan deulu a ffrindiau Val, a phwysigion lleol gan gynnwys Mr Henry (Harry) George Fetherstonhaugh OBE DL, Arglwydd Raglaw Sir Clwyd; Janet Finch-Saunders AS; y Cynghorydd Harry Saville, Maer Llandudno; a'r Cynghorydd Philip C. Evans J.P.

 

Enwebwyd Val gan Aberconwy Physically Handicapped a Able Bodied Club (PHAB), a chefnogwyd yr enwebiad gan nifer yn y gymuned gan gynnwys yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy.

 

Wrth siarad ar ôl cyflwyno'r fedal, dywedodd Janet:

 

“Rwyf wrth fy modd bod cymaint ohonom wedi gallu dod at ein gilydd i ddathlu'r ffaith bod cyfraniad amhrisiadwy Val i'n cymdeithas wedi cael ei gydnabod mewn ffordd mor wych.

 

“Rwy’n nabod Val ers blynyddoedd, a bob amser wedi edmygu ei hegni, ei brwdfrydedd a'i hymroddiad i godi arian i bobl sy'n llawer llai ffodus na ni ein hunain.

 

“Mae hi wedi cefnogi PHAB ers dros 35 mlynedd, wedi helpu elusen sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr spina bifida a hydroceffalws, ac wedi dechrau'r Daith Gerdded Susie Sunshine flynyddol ar hyd y Prom.

 

“Alla’i ddim meddwl am neb mwy haeddiannol a theilwng i dderbyn y fedal hon”.

 

Adleisiwyd yr edmygedd lleol gan y Cynghorydd Harry Saville, Maer Llandudno, a ychwanegodd:

 

“Mae cyfraniad Val at achosion elusennol yn lleol yn adnabyddus ac rwy'n falch iawn ei bod wedi cael ei chydnabod gyda BEM.  Mae'n bleser gen i longyfarch Val ar ran Cyngor Tref Llandudno.”

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree