Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Galw ar Lywodraeth Cymru i ymddiheuro am y sefyllfa gynllunio

  • Tweet
Tuesday, 15 February, 2022
  • Senedd News
Janet

Bedwar mis ers i Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd  dros Aberconwy, a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i alw am weithredu brys er mwyn parhau i weithredu apeliadau byw a gwaith achos, mae Gweinidog yr Wrthblaid yn galw ar y Gweinidog i ymddiheuro am y siop siafins parhaus yn Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).

 

Mae PEDW bellach yn gyfrifol am ymdrin â'r holl waith achos a arferai gael ei drin gan PINS Cymru, sy'n golygu bod pob apêl neu waith achos am ganiatâd a benderfynwyd yn flaenorol gan PINS Cymru bellach yn cael ei gyfeirio at y corff newydd. Dechreuodd y gwasanaeth newydd ar 1 Hydref 2021.

 

Yr wythnos hon mae busnesau wedi dweud bod PEDW yn rhwystro buddsoddiadau yng Nghymru.

 

Wrth sôn am yr argyfwng cynllunio yng Nghymru, dywedodd Janet:

 

“Mae'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r newid i PEDW yn enghraifft o reoli gwael sy'n costio'n ddrud i dwf economaidd a buddsoddiad busnes y genedl.

 

“Fis Hydref diwethaf, tynnais sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn goruchwylio argyfwng difrifol gan nad oedd gan swyddogion fynediad llawn at y system gwaith achos newydd na dogfennau, ac felly nid oedden nhw’n gallu darparu gwybodaeth hanfodol am apeliadau byw.

 

“Yn wir, fe wnaeth llythyr agored gan Brif Gynllunydd y Gyfarwyddiaeth Gynllunio rybuddio am y sefyllfa bosibl ar 15 Gorffennaf 2020. Felly, er gwaetha'r ffaith eu bod wedi cael bron i flwyddyn i gynllunio'n iawn, mae'n warthus bod problemau difrifol yn dal i blagio PEDW bum mis yn ddiweddarach.

 

“Gydag argyfwng tai ledled Cymru, mae'r sefyllfa chwerthinllyd hon yn gwbl annerbyniol ac amhroffesiynol. Rhaid i'r Gweinidog ymddiheuro a threfnu bod adnoddau ychwanegol yn cael eu rhoi i rymuso PEDW i fynd i'r afael â'r ôl-groniad a sicrhau bod y system gynllunio yn gweithio'n iawn".

 

DIWEDD 

You may also be interested in

Janet

Support Local Businesses This Summer Holiday

Friday, 10 July, 2026
Janet Finch-Saunders, the Member of the Senedd for Bangor, Conwy and Môn, is calling on residents and visitors alike to support local businesses and attractions as the summer school holidays approach. With thousands of families set to enjoy the break over the coming weeks, Janet is highlighting

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree