Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn cefnogi menter Gwylio Adar yr Ardd

  • Tweet
Friday, 21 January, 2022
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid - wedi annog preswylwyr ledled Cymru i gofrestru a chymryd rhan ym menter Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB.

Cynhelir y digwyddiad gwylio adar blynyddol rhwng 28 a 30 Ionawr 2022. Dyma arolwg adar mwyaf y byd ac mae wedi’i gynnal bob blwyddyn ers 1979. Yn ôl y sefydliad, digwyddiad gwylio adar y llynedd oedd y mwyaf erioed, gyda dros filiwn o bobl yn cymryd rhan a chyfrif dros 17 miliwn o adar.

Yr adar mwyaf amlwg wrth Wylio Adar yr Ardd yn 2021 oedd yr aderyn y to, titw tomos las, drudwy, deryn du a’r ysguthan. Fodd bynnag, nid yw’n newyddion da i gyd. Tua diwedd y llynedd, mynegodd Mrs Finch-Saunders ei phryder bod Rhestr Goch y DU ar gyfer adar yn cynnwys 70 o rywogaethau erbyn hyn a bron i ddwywaith cymaint â rhestr yr adolygiad cyntaf yn y DU ym 1996.

Gan annog gweithredu ynghylch y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Fel gwyliwr adar brwd, sy’n rhoi bwyd ar fy sill ffenest gartref i’r robin goch a’r sigl-i-gwt gael gwledda arno, rwy’n falch iawn o gael y cyfle i annog preswylwyr i gymryd rhan ym menter Gwylio Adar yr Ardd rhif 43 yr RSPB - cyfle hanfodol sy’n galluogi’r elusen i gadw llygad ar boblogaeth adar Prydain.

“Yn anffodus, ers dechrau Gwylio Adar yr Ardd ym 1979, mae niferoedd llawer o rywogaethau wedi bod yn dirywio. Yn wir, dros y 50 mlynedd diwethaf, mae mwy na 38 miliwn o adar wedi diflannu o’n hawyr a daeth canfyddiadau a oedd yn achosi cryn bryder i’r amlwg ym menter y llynedd, fel y gostyngiad parhaus yn niferoedd y llinos werdd a’r asgell fraith.

“Trwy gofnodi’r adar sy’n ymweld â’ch gardd neu fan gwyrdd lleol, dros gyfnod o awr yn unig, gall menter Gwylio Adar yr Ardd roi cliwiau i gadwraethwyr ynghylch pa rywogaethau sydd mewn trafferthion a pham. Mae’n ein helpu hefyd i olrhain pa adar sy’n gwneud yn arbennig o dda, a gwyddom ei fod o fudd i’n lles meddyliol.”

Yn lleol, mae RSPB Conwy yn cynnal digwyddiad yn eu gwarchodfa natur y penwythnos hwn lle bydd gwirfoddolwyr gwybodus wrth law i roi cyngor ar orsafoedd bwydo a sgiliau adnabod adar. Bydd gweithgareddau galw heibio i blant ar gael gydol y dydd hefyd, rhwng 10:00 a 15:00. Er nad oes angen archebu lle, bydd yn rhaid i bawb nad ydynt yn aelodau dalu pris mynediad arferol. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar hefyd ar gyfer y gweithgareddau plant. Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad lleol i breswylwyr lleol ar gael drwy glicio yma. 

DIWEDD 

Llun: Janet yn RSPB Conwy gyda Helen Jowett (Rheolwr Safle) a Julian Hughes (Pennaeth Rhywogaethau).

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree