Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn canmol consensws Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno bod angen adfer gwasanaethau yn yr Ysbyty

  • Tweet
Friday, 21 January, 2022
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Wrth ddal ati gyda’i hymgyrch i gynnal ac adfer y gwasanaethau a gynigir yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi cynnal cyfarfod gyda Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno i drafod yr angen i ddilyn llwybr positif ymlaen. O ganlyniad i’r cyfarfod, mae’r Cadeirydd, y Cynghorydd Carol Marubbi, wedi ymrwymo i drefnu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp.

Yn ystod y cyfarfod, cytunwyd y dylai’r Bwrdd Iechyd ystyried llunio cynllun strategol hirdymor ychwanegol i ddeall pa staff fydd eu hangen arnynt ymhen blwyddyn. Felly, mae Janet wedi ymrwymo i ddal ati gyda’i gwaith i wella ysgol feddygol Gogledd Cymru er mwyn helpu i gadw gweithwyr proffesiynol dawnus wedi’u hyfforddi’n feddygol yn y rhanbarth.

Wrth sôn am y cyfarfod cynhyrchiol, dywedodd Janet:

“Mae cleifion ledled Aberconwy yn ymwybodol iawn o’r straen ar ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ym mis Awst, dangosodd ystadegau amseroedd aros mai Betsi Cadwaladr oedd y Bwrdd Iechyd oedd yn perfformio waethaf yng Nghymru gyda dim ond 64.9% yn cael eu gweld o fewn y targed o bedair awr. Fel yr wyf yn atgoffa’r Bwrdd Iechyd a Gweinidogion yn y Senedd yn gyson, mae’n rhaid i’n hysbytai llai wneud cyfraniad pwysicach fyth yn ein gwasanaeth iechyd, a gallant wneud hynny.

“Rwyf wedi credu ers tro nad yw Ysbyty Llandudno yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol. Wrth gydnabod y gofal rhagorol a gynigir gan staff yn yr ysbyty, mae’n drist dros ben bod llawer o etholwyr yn credu nad oes ganddynt lawer o ddewis ond gyrru i Ysbyty Glan Clwyd neu Ysbyty Gwynedd gan fod yr adran achosion brys wedi’i hisraddio yn Llandudno.

“Felly, roeddwn i’n falch iawn o weld cefnogaeth ymysg aelodau Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno heddiw y dylai’r rhestr o gyfrifoldebau ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau yn Llandudno gael ei hadolygu i weld a all gynnig rhagor o gymorth a gofal ddydd a nos. Cytunwyd hefyd bod yn rhaid ailagor yr Uned Gofal Dydd i gleifion cyn gynted â phosib hefyd.

“Fel y crybwyllwyd yng nghyfarfod Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno heddiw, rhan o’r broblem wrth ehangu unrhyw ddarpariaeth ar y safle yw argyfwng recriwtio hirsefydlog, gan arwain at gostau cynyddol staff asiantaeth. Dyma pam y byddaf yn dal ati i bwyso ar Lywodraeth Cymru i blannu’r hadau ar gyfer twf mawr mewn recriwtio drwy fanteisio i’r eithaf ar botensial Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Bydd buddsoddi nawr yn sicr o dalu ar ei ganfed yn yr hirdymor.”

Ymysg y cyfleusterau yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno mae Uned Osteoporosis ac Uned Rhiwmatoleg. Mae’n bwysig iawn nodi bod Ysbyty Llandudno yn parhau i fod y gartref i’r unig ganolfan esgyrn yn y Gogledd ac nid oes unrhyw fwriad i symud neu leihau’r gwasanaeth hwn.

Gall yr Uned Mân Anafiadau gynorthwyo hefyd gydag ysigiadau, briwiau a chrafiadau, sgaldiadau, rhywbeth yn llygaid pobl, brathiadau a phigiadau pryfed a mân anafiadau i’r pen. Fodd bynnag, dim ond rhwng 8am ac 8pm bob dydd y mae’r Uned ar agor.

Yn y gorffennol, mae Janet wedi mynegi ei phryder am y datgeliad nad oes unrhyw gleifion wedi’u gweld yn Uned Gofal Dydd y safle yn 2021. Arweiniodd y cadarnhad hwn, a gafwyd drwy ymateb Rhyddid Gwybodaeth, at alwadau’r Aelod i ailagor y ganolfan fel ffordd o fynd i’r afael â rhestrau aros.

DIWEDD

Llun: Janet yn cyfarfod gydag aelodau Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno.

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree