Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Canmol criw cwch lleol am helpu i ddarparu gofal meddygol i ranbarthau pellennig ym Madagascar

  • Tweet
Wednesday, 22 December, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi ymweld â Chei Conwy i ddysgu mwy am y cwch y bydd grŵp lleol o wirfoddolwyr lleol yn hwylio ynddo o Gonwy yn y Gogledd i Fadagascar, drwy Dde Affrica, lle bydd yn cael ei hadfer, er mwyn helpu i ddarparu cymorth meddygol i’r rhai sydd ei angen.

Nod y cwch fydd darparu gofal meddygol ar arfordir dwyreiniol Madagascar, sydd â dyfrffyrdd mewndirol o 70 milltir heb fawr ddim gofal meddygol. Mae’r daith yn cael ei threfnu gan elusen Gristnogol o’r enw Youth With a Mission (YWAM), gyda’r gwaith yn cynnwys gosod dau glinig ar y cwch a fydd yn cael eu rhedeg gan grŵp rhyngwladol o hwylwyr. Mae gan YWAM dîm yn gweithio  o gychod modur bach yn ardal Madagascar eisoes.

Wrth ganmol y daith anhunanol, dywedodd Janet:

“Roeddwn i’n falch iawn o gael ymweld â’r tîm a fydd yn hwylio’r Island Reach i ddymuno’r gorau iddynt o waelod calon ar eu taith o Gei Conwy i Fadagascar i ddarparu cymorth meddygol hanfodol i’r rhai sydd ei angen.

“Mae ymroddiad y tîm i gefnogi pobl ifanc gyda chyfleoedd gwirfoddoli drwy’r elusen Gristnogol YWAM yn drawiadol iawn, a bydd hyn yn helpu i ddod â grŵp rhyngwladol o gynorthwywyr at ei gilydd.

“Yn y tymor hwn o ewyllys da, ac fel cydnabyddiaeth i achos gwerth chweil a fydd yn cael effaith fuddiol ar gymaint o fywydau, rwy’n gwybod y byddai’r tîm yn croesawu unrhyw roddion defnyddiol o gyfarpar meddygol neu ddeintyddol, fel rhwymynnau neu gadeiriau deintydd segur.”

I roi cyfarpar meddygol neu ddeintyddol,  e-bostiwch: [email protected].  

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS yn cael golwg ar y cwch.

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree