Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Canmol cynllun adfer positif yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dilyn difrod helaeth Storm Arwen

  • Tweet
Monday, 20 December, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi ymweld â Gerddi Bodnant i weld gyda’i llygaid ei hun y difrod helaeth a achoswyd gan Storm Arwen ym mis Tachwedd a chanmol cynlluniau adfer positif yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cafodd Bodnant ei chreu dros 150 mlynedd yn ôl, gyda phlanhigion wedi’u casglu a’u cludo i Brydain o bedwar ban byd, ac mae’n hafan brin a hardd yng nghysgod mynyddoedd y Carneddau yn Eryri. Fodd bynnag, yn ystod Storm Arwen rhwygodd gwyntoedd drwy’r cwm a'r ffwrnais gan achosi difrod sylweddol a chwympo mwy na 50 o goed.

Cafodd Mrs Finch-Saunders gyfarfod gyda rhanddeiliaid amrywiol yn yr ardd sy’n enwog drwy’r byd, gan gynnwys John Walker (Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Bodnant), Paul Southhall (Rheolwr Ymgynghoriaeth Cymru), a Frances Llewellyn (Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer Bodnant).

Wrth wneud sylwadau ar ôl yr ymweliad, dywedodd Janet:

“Roedd y tywydd garw diddiwedd hwn yn ein hatgoffa eto o rym natur, gyda’r gwyntoedd cryfion eithafol hyn yn debyg o gynyddu yn sgil newid hinsawdd fyd-eang.

“Roedd hi’n drist iawn gweld bod Storm Arwen wedi difrodi llawer o binwydd, magnolia a rhododendron aeddfed y mae’r gerddi’n enwog amdanynt. Yn anffodus, mae hyn yn cynnwys nifer o goed unigryw hefyd, gan gynnwys y Gochwydden Arfor 140 oed ger yr Hen Felin.

“Er fy mod yn credu bod yr Ymddiriedolaeth yn gobeithio melino rhai o’r coed hyn sydd wedi’u cwympo, gan sicrhau nad oes unrhyw adnoddau’n cael eu gwastraffu, hoffwn ganmol y staff sy’n clirio’r malurion ac a fydd yn troi eu sylw maes o law at ailblannu ac adnewyddu erwau o’r dirwedd hanesyddol hon.

“Er nad oes amheuaeth bod y dirwedd wedi newid yn sgil y storm, yr hyn sy’n hollbwysig yw y bydd y cynllun gweithredu positif hwn yn sicrhau bod yr adnodd hwn yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gyda chefnogaeth tîm o arddwyr wedi’u hyfforddi a gwirfoddolwyr, rwy’n ffyddiog iawn y bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod y gerddi’n gryfach yn y dyfodol.

“Gyda’r safle ar agor o hyd o ymwelwyr gydol y tymor ewyllys da hwn, ond gydag ambell ran wedi’i chau am resymau diogelwch, rwy’n erfyn ar breswylwyr i gefnogi’r gwaith cadwraeth pwysig hwn lle bynnag y bo’n bosibl.”

Disgwylir i’r gwaith clirio ym Modnant gymryd misoedd. Mae’r Ymddiriedolaeth yn gofyn i gefnogwyr roi’r hyn a allant i’w hapêl codi arian Coetiroedd er mwyn helpu gyda’r gwaith adfer heddiw ac yfory: www.nationaltrust.org.uk/woodlands-appeal

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree