Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Mynegi pryderon am “orllewin gwyllt rhithwir” gwerthiannau anifeiliaid anwes ar-lein yn ystod cwestiynau’r Senedd

  • Tweet
Wednesday, 15 December, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Wrth holi Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ar fater lles anifeiliaid yn dilyn cyflwyno rheoliadau ar werthu cŵn a chathod bach trydydd parti, mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi annog cydweithio gweithredol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol yn cyflawni eu swyddogaeth i orfodi gwerthiannau cyfreithlon.

Adlewyrchwyd y pryder hwn mewn adroddiad diweddar gan y Blue Cross hefyd a ganfu bod llawer iawn o gŵn bach yn dal i fod ar werth ar-lein, gyda dros 400 o hysbysebion yn cael eu gosod bob dydd.

Wrth siarad ar ôl ei chwestiwn, dywedodd Janet:

“Ar ôl ymgyrchu i lwyr gefnogi cyflwyno’r rheoliadau, rwy’n dal i fod yn fwy a mwy pryderus bod gorllewin gwyllt rhithwir y platfformau cyfryngau cymdeithasol modern yn mynd i danseilio’n rheoliadau ar werthu cŵn a chathod bach trydydd parti.  

“Gydag ymchwiliad brawychus gan BBC Wales yr wythnos hon yn canfod bod platfformau ar-lein yn helpu i hyrwyddo masnach giaidd mewn cŵn yr addaswyd eu hedrychiad i fod yn ffasiynol, a llawer o fideos a lluniau’n cael eu rhoi ar blatfformau gyda geiriau fel “un ci bach ar ôl”, mae’n sefyll i reswm nad yw lles yr anifeiliaid anwes hyn yn brif flaenoriaeth yn ystod y gwerthu.

“Ar ôl codi’r mater hwn yn y Siambr o’r blaen, ac o ystyried y niwed hysbys i les anifeiliaid, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i gynnal sgyrsiau brys gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol yn cyflawni eu swyddogaeth i orfodi gwerthiannau cyfreithlon.” 

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS 

You may also be interested in

J

£1bn NHS Repairs Backlog Sparks Concerns Over North Wales Hospitals / Ôl-groniad atgyweiriadau'r GIG gwerth £1bn yn sbarduno pryderon am ysbytai’r Gogledd

Tuesday, 7 April, 2026
Janet Finch-Saunders MS has raised serious concerns about the condition of NHS buildings across North Wales, following figures released from NHS Wales Shared Services Partnership. The ‘high’ risk backlog has risen 71% in four years, according to NHS Wales Shared Services Partnership.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree