Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Adolygu rheolau cadw pellter cymdeithasol y tu allan i ganolfannau brechu mewn tywydd gwael

  • Tweet
Tuesday, 14 December, 2021
  • Local News

Ar ôl codi pryderon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â'r ciwiau y tu allan i ganolfannau brechu yn ystod tywydd gaeafol, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi annog trigolion i beidio â chyrraedd canolfannau yn rhy gynnar er mwyn helpu i atal ciwio diangen. 

Daw hyn wrth i Janet gael ateb ffurfiol gan y Bwrdd Iechyd sy'n pwysleisio bod gofynion cadw pellter cymdeithasol yn golygu na allant ganiatáu i gynifer o bobl ag y byddent yn dymuno aros am eu hapwyntiad dan do. Dywed y Bwrdd Iechyd fod gan bob lleoliad asesiad iechyd a diogelwch, a bod y sefyllfa'n cael ei monitro'n barhaus. 

Mewn ymateb, dywedodd Janet: 

“Gyda'r etholaeth wedi'i tharo gan dywydd gaeafol a stormus yn ddiweddar, a'r tymheredd ar fin gostwng ymhellach, rwy'n derbyn mwy a mwy o lythyrau gan etholwyr sy'n poeni am yr holl giwiau hir y tu allan i ganolfannau brechu.

“Ar ôl ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd ar y mater hwn, rwy'n croesawu cadarnhad y bydd staff yn ceisio lleihau'r gofynion pellter cymdeithasol a ddefnyddir yn y lleoliad o'r 2m arferol i 1.5m pan fydd y tywydd yn wael. Bydd hyn yn sicrhau y bydd mwy o bobl yn gallu aros dan do cyn cael eu brechu.

“Os yw'r etholwyr yn poeni am y tymheredd y tu mewn i  ganolfan frechu, gallant ofyn i staff gau rhai ffenestri hefyd. Mae cyfathrebu'n hollbwysig, ac rwyf wedi cael sicrwydd bod ein staff rhagorol wrth law i helpu i wneud yr ymweliad â chanolfan mor ddiogel â phosibl.

“Fodd bynnag, er bod cyrraedd yn gynnar fel arfer yn arwydd o gwrteisi, rydym yn annog preswylwyr i gyrraedd ar yr amser cywir ar gyfer eu hapwyntiad yn lle dod yn gynnar er mwyn lleihau'r cyfnod aros allan yn yr awyr agored.

“Wrth i'r gwaith o gyflwyno'r brechlyn atgyfnerthu gynyddu, rwy'n barod i gynnig cymorth i'r holl etholwyr a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â'r gwaith."

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Amgaeaf gopi o'r llythyr a dderbyniwyd.

Llun: gan Daniel Schludi ar Unsplash

 

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree